Arcêd Ganolog, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arcêd Ganolog, Wrecsam

Arcêd siopa Fictoraidd rhestredig Gradd II [1] yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Arcêd Ganolog [2] (“Central Arcade”).

Lleoliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r arcêd yn cysylltu Stryt yr Hôb, un o brif strydoedd masnachol y dref, â Marchnad y Cigyddion, marchnad dan do hanesyddol ar y Stryt Fawr.[3] Mae'r arcêd yn dal i weithio ac wedi cadw llawer o'i nodweddion gwreiddiol.[1]

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Adeiladwyd yr Arcêd Ganolog yn 1891, ar sail dyluniad y pensaer Alfred C. Baugh [3] (roedd Baugh yn bensaer ar gyfer adeiladau eraill yng nghanol Wrecsam, fel swyddfa yr post (1885) [4] ac yr Eglwys Methodistiaid Jerwsalem (1883) [5] ).

Yn 1890 sefydlwyd cwmni (“the Wrexham Arcade Company, Limited”) i ddylunio ac adeiladu'r arcêd ar safle siop y brethynnwr Charles Davies (roedd Mr Davies un o brif hyrwyddwyr y prosiect). [3]

Agorwyd yr arcêd ym mis Tachwedd 1891. Fe'i gelwid yn wreiddiol fel yr 'Hope Street Arcade'. [3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Central Arcade, Rhosddu, Wrexham". British Listed Buildings. Cyrchwyd 9 June 2022.
  2. "Marchnadoedd canol tref Wrecsam - Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam". Wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 9 June 2022.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 "Central Arcade Wrexham 1890-1900". Wrexham History. Cyrchwyd 9 June 2022.
  4. "Wrexham Post Office". British Post Office Buildings and their Architects - an Illustrated Guide. Cyrchwyd 9 June 2022.
  5. "Jerusalem Welsh Methodist Church (Wesleyan), Egerton Street, Wrexham". Cofnod Henebion Cenedlaethol Cymru. 9 June 2022.