Simnai Bragdy Soames, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Simnai Bragdy Soames
Mathsimnai Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1894 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadOffa Edit this on Wikidata
SirWrecsam, Offa Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr73.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.043829°N 2.991764°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Simnai frics Fictorianaidd yng nghanol dinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw simnai Bragdy Soames (Saesneg: Soames Brewery Chimney) ynteu simnai Bragdy Border. Mae'r simnai'n adeilad rhestredig gradd II.

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae'r simnai yn sefyll ar Stryt y Twtil (Tuttle Street) y tu ôl i dafarn y Nag's Head, i'r de-ddwyrain o Eglwys San Silyn ac i'r gogledd o afon Gwenfro. Mae golygfa tuag at y simnai i lawr Stryt Yorke o'r gyffordd rhwng Stryt Yorke a'r Stryt Fawr yng nghanol Wrecsam.

Hanes[golygu | golygu cod]

Yn wreiddiol, yn ardal Stryt y Twthil roedd marchnad o'r enw Sgwâr Swydd Efrog (Yorkshire Square). [1]

Roedd cwrw yn cael ei bragu gan y Nag's Head ymhell cyn i Arthur Soames o fragdy Soames brynu'r safle yn 1879. Adeiladwyd y simnai yn 1894 fel rhan o estyniad y bragdy, un o lawer o fragdai yn y dref. Estynnodd y bragdy ar ddwy ochr Styt y Twtil, gan adeiladu'r simnai ar ochr ddwyreinol y stryd a bragdy newydd ar yr ochr orllewinol.[2][3]

Yn 1931, cyfunwyd y bragdy Soames â dau fragdy arall er mwyn creu bragdy Border, a daeth bragdy Stryt y Twtil yn ganolfan i'r gwaith cynhyrchu. Yn 1984, cafodd y bragdy ei gau ar ôl iddo gael ei werthu i gwmni Marstons.[2] Addaswyd bragdy Stryt y Twtil i fod yn fflatiau, ond mae'r Nag's Head ar agor o hyd. Gwerthwyd y simnai gan John Marek er mwyn ei hachub rhag cael ei dymchwel cyn-aelod o'r Senedd dros Wrecsam a chyn-aelod o'r Cynulliad. Gwerthodd y Dr Marek y simnai yn 2011.[4]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Gyda thafarn y Nags Head ar Stryt yr Bryn (Mount Street) a bragdy Stryt y Twtil, mae'r simnai yn rhan o grŵp o adeiladau sy'n gysylltiedig â hen fragdy Soames/Border.

Adeiladwyd y simnai o frics coch ac mae hi'n 37 metr (120 troedfedd) o daldra.[2] Mae'n adeilad blaenllaw yng nghanol Wrecsam yn ogystal â thŵr Eglwys San Silyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 14 Chwefror 2023.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Soames brewery chimney, Wrexham". History Points. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
  3. "The Nag's Head, Wrexham". History Points. Cyrchwyd 16 Tachwedd 2022.
  4. "Gwerthu hen simnai am £1,420". Cymru Fyw. 27 Hydref 2011.