Gwesty'r Wynnstay Arms, Wrecsam
Math | gwesty, tafarn |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Wrecsam |
Sir | Wrecsam |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 79.4 metr |
Cyfesurynnau | 53.045219°N 2.991154°W |
Cod post | LL13 8LP |
Perchnogaeth | Marston's |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Gwesty a thafarn hanesyddol yng nghanol ddinas Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Wynnstay Arms.
Lleoliad
[golygu | golygu cod]Mae'r Wynnstay Arms yn sefyll ar Stryt Yorke yng nghanol Wrecsam, ar y gyffordd gyda'r Stryt Fawr, Stryt Caer a Stryt Siarl. Mae golygfa drawiadol tuag at y gwesty ar hyd y Stryt Fawr.
Hanes
[golygu | golygu cod]Yn y 18fed ganrif ar safle'r adeilad cyfredol roedd tafarn o'r enw The George. Newidiwyd yr enw i'r Eagles pan oedd y gwesty yn perthyn i'r teulu Williams-Wynn o Blasty Wynnstay, Rhiwabon. Codwyd yr adeilad cyfredol yn y 18fed ganrif. [1]
Parhaodd y gwesty dan enw'r Eagles hyd at y 19eg ganrif, pan gafodd yr enw ei newid i'r Wynnstay Arms. Yn y chwedegau gwerthwyd y gwesty ac roedd gan y perchennog newydd gynlluniau i ddymchwel yr holl adeilad. Yn y pen draw, fe gadwyd y ffasâd wrth i weddill yr adeilad gael ei ddymchwel a'i ddisodli gyda gwesty modern. Ar yr un pryd newidiwyd enw'r gwesty i'r Wrexham Crest Hotel. Yn 1985, gwerthwyd y gwesty unwaith eto gyda'r perchennog yn newid enw'r gwesty yn ôl i'r Wynnstay Arms.[1]
Adeilad eiconig yn Wrecsam ydy'r Wynnstay Arms ac mae'r gwesty wedi chwarae rôl sylweddol yn hanes y ddinas. Ar 2 Chwefror 1876, sefydlwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru mewn cyfarfod yn y gwesty. Dywedwyd yn ogystal i David Lloyd George gyhoeddi diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf o falconi'r gwesty.[2]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Gwesty'r Wynnstay Arms – golygfa ar draws Stryt Yorke
-
Gwesty'r Wynnstay Arms – balconi a ffasâd y gwesty
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Buildings and Places of Wrexham Past and Present". chris-myers.co.uk.
- ↑ "Wynnstay Arms Hotel, Wrexham". historypoints.org. Cyrchwyd 25 Hydref 2022.