Marchnad y Cigyddion, Wrecsam

Marchnad dan do hanesyddol ar y Stryt Fawr, Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, ydy'r Farchnad y Cigyddion ("Butchers' Market"). Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.[1]
Lleoliad[golygu | golygu cod y dudalen]
Heblaw'r brif fynedfa ar y Stryt Fawr, mae gan y farchnad fynedfeydd eraill ar Stryt yr Hôb (trwy'r Arcêd Ganolog) ac ar Stryt Henblas, sy'n cysylltu Marchnad y Cigyddion a'r Farchnad Gyffredinol, marchnad hanesyddol arall yng nghanol y dref.
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd y farchnad ei dylunio gyda ffasâd carreg yn yr arddull Jacobeaidd gan Thomas Penson, syrfëwr Sir Ddinbych a Sir Drefaldwyn (cafodd Penson ei eni yn y dref).[2]
Agorwyd y farchnad yn 1848. Cafodd y fynedfa gefn ar Stryt Henblas ei ychwanegu yn 1879, mewn dull tebyg i fynedfa'r Farchnad Gyffredinol dros y stryd.[3]
Heddiw[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae marchnad y Cigyddion yn dal i weithio heddiw fel marchnad feunyddiol gyda amrywiaeth o fusnesau lleol.[4]
Cofrestrwyd Marchnad y Cigyddion yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gyda'r rhif NPRN 23357.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ "Wrexham Town Centre Conservation Area Assessment" (PDF). Wrexham.gov.uk. Cyrchwyd 22 June 2022.
- ↑ "Butcher's Market, Wrexham". Thomas Penson 1790-1859 Border Architect. Cyrchwyd 7 June 2022.
- ↑ 3.0 3.1 "Butchers' Market, 10-11 High Street, Wrexham". Coflein.gov.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mehefin 2022.
- ↑ "Wrexham Butchers Market - Home - Facebook" (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mehefin 2022.