Marchnad Gyffredinol, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Mynedfa y farchnad ar Stryt Henblas, Wrecsam
Marchnad Gyffredinol, Wrecsam

Marchnad dan do hanesyddol yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw'r Farchnad Gyffredinol (“General Market”). Adeiladwyd y farchnad 1879 o frics coch Rhiwabon [1] ac mae o'n dal i weithio heddiw. [2] Mae'n adeilad rhestredig Gradd II.

Adeiladwyd y farchnad ar safle Sgwâr Manceinion ("Manchester Square"), hen farchnad awyr agored gafodd ei defnyddio gan fasnachwyr yn ystod ffeiriau blynyddol.[3]

Saif y farchnad ar Stryt Henblas yng nghanol y dref, cyferbyn â mynedfa gefn Marchnad y Cigyddion – mewn gwirionedd, adeiladwyd mynedfa'r Farchnad Gyffredinol yn yr un dull â mynedfa gefn Marchnad y Cigyddion. [4]

Cofrestrwyd y Farchnad Gyffredinol yng Nghofnod Henebion Cenedlaethol Cymru gyda'r rhif NPRN 313. [1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 "Wrexham General Market - Coflein". Cyrchwyd 7 June 2022.
  2. "Marchnadoedd canol tref Wrecsam". Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Cyrchwyd 7 June 2022.
  3. "General Market building, Rhosddu, Wrexham". Cyrchwyd 7 June 2022.
  4. "Butcher's Market, Rhosddu, Wrexham". Britishlistedbuildings.co.uk. Cyrchwyd 7 June 2022.