Rhifau 14-15, Stryt Fawr, Wrecsam

Oddi ar Wicipedia
y Midland
Mathtafarn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadParc Caia, Wrecsam Edit this on Wikidata
SirRhos-ddu, Wrecsam Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr80.7 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.04523°N 2.99186°W Edit this on Wikidata
Cod postLL13 8HP Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II Edit this on Wikidata
Manylion

Adeilad hanesyddol rhestredig gradd II yng nghanol Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Rhifau 14-15, Stryt Fawr.

Stryt Fawr, ochr ogleddol, o'r gyffordd gyda Stryt Yorke a Stryt Caer. Mae Marchnad y Cigyddion i'w weld yn y cefndir
Rhifau 14-15, Stryt Fawr, Wrecsam

Lleoliad[golygu | golygu cod]

Mae rhifau 14-15 Stryt Fawr yn sefyll ar ochr ogleddol y stryd, ger y gyffordd â Stryt Yorke a Stryt Caer. Mae'r adeilad yn rhan o grŵp o adeiladau mawreddog, efo gwesty'r Wynnstay Arms ar Stryt Yorke, yr adeilad Alliance Assurance (rhif 29 Stryt Fawr) a Marchnad y Cigyddion.

Hanes[golygu | golygu cod]

Adeiladwyd rhifau 14-15 Stryt Fawr yn 1910-1912 gan Woolfall & Eccles yn ar arddull Palazzo ar gyfer y Banc Gogledd a Deheudir Cymru (“North & South Wales Bank”). Roedd cynllun gwreiddiol Woolfall & Eccles ar gyfer adeilad yn yr arddull Gothig, ond cafodd y darlun ei wrthod gan y Banc Midland, a oedd wedi cymryd drosodd y banc yn y cyfamser. [1]

Roedd y safle wedi cael ei gwerthu ar gyfer y banc yn 1905. Ar gyfer ei swyddfa yn Wrecsam, roedd y banc wedi defnyddio nifer o swyddfeydd gwahanol ar y Stryt Fawr, yn cynnwys rhif 29, yr adeilad Alliance Assurance. [2]

Yn 1908, unodd y Banc Gogledd a Deheudir Cymru â Banc y Midland. O ganlyniad mae'r adeilad yn cael ei adnabod hefyd fel “the Midland Bank building”. Roedd yr adeilad yn parhau i gael ei ddefnyddio fel banc tan 1999. Ers 1999, mae'r adeilad wedi bod yn dafarn. [2] [3]

Disgrifiad[golygu | golygu cod]

Mae gan yr adeilad, sydd yn yr arddull palazzo Baróc, ffasâd o dywodfaen melyn gyda phileri gwenithfaen ar y llawr gwaelod. [4]

Uwchben un o ddrysau'r adeilad mae'n dal yn bosib darllen yr arysgrif “Midland Bank Chambers”.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Booker, John Michael Lloyd (1984). The Architecture of Banking: A Study of the Design of British Banks from the 18th Century to Modern Times - Volume One. University of York, Institute of Advanced Architectural Studies. tt. p. 195.CS1 maint: extra text (link)
  2. 2.0 2.1 "Buildings of Wrexham: High Street (North)". Buildings of Wrexham. 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-06. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2022.CS1 maint: BOT: original-url status unknown (link)
  3. "The North and South Wales Bank Wrexham - J D Wetherspoon". jdwetherspoon.com. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2022.
  4. "Cynllun Asesu a Rheoli Nodweddion Ardal Gadwraeth Canol Tref Wrecsam" (PDF). Wrecsam.gov.uk. Cyrchwyd 1 Rhagfyr 2022.