Rhestr Llengoedd Rhufeinig
Y Lleng (Lladin: Legio), oedd yr uned filwrol nodweddiadol o'r fyddin Rufeinig. Roedd maint lleng yn amrywio, ond yn oes aur Rhufain roedd tua 5,000 - 6,000 o wyr. Gweler Lleng Rufeinig.
Roedd gan pob lleng ei rhif, ond mae'n bwysig sylwi fod modd i fwy nag un lleng fod a'r un rhif. Roeddynt yn cael eu gwahaniaethu gan enwau, a allai gyferio at fuddugoliaeth a enillodd y lleng, y wlad lle ffurfiwyd hi neu'r person a'i ffurfiodd. Mae rhai llengoedd yn dwyn yr enw Gemina (Efaill), sy'n dynodi eu bod wedi eu ffurfio trwy gyfuno dwy leng flaenorol. Ychwanegir y blynyddoedd y bu'r lleng mewn bodolaeth a nodir yr ymerawdwr neu'r person arall a'i ffurfiodd.
Llengoedd yr Ymerodraeth Gynnar
[golygu | golygu cod]- Legio I Germanica (Almaenaidd) - 48 CC hyd 70 OC Iŵl Cesar
- Legio I Adiutrix (Cynorthwyol) - 68 OC hyd (o leiaf) 444 OC Nero
- Legio I Italica (Eidalaidd) - 22 Medi 66 hyd (o leiaf) 5g, Nero
- Legio I Macriana liberatrix (Rhyddhawyr Macer) - 68 hyd 69 OC Lucius Clodius Macer, rhaglaw Affrica
- Legio I Minervia (dan amddiffyniad y dduwies Minerva) - 82 OC hyd (o leiaf) 4g, Domitian
- Legio I Parthica (Parthaidd) - 197 hyd dechrau'r 6g, Septimius Severus
- Legio II Adiutrix Pia Fidelis (cynorthwydd ffyddlon a theyrngar) - 70 OC hyd (o leiaf) 3g, Vespasian
- Legio II Augusta (codwyd gan Augustus) – cyn 9 OC hyd o leiaf 3g
- Legio II Gallica (o Gallia) – efallai enw arall ar y Legio II Augusta
- Legio II Italica (Eidalaidd) - 165 hyd ddechrau'r 5g, Marcus Aurelius
- Legio II Parthica (Parthaidd) – 197 OC hyd ganol y 4g, Septimius Severus
- Legio II Traiana Fortis (Lleng gref Trajan) - 105 OC hyd (o leiaf) 5g, Trajan
- Legio II Germanica (Almaenaidd) – o'r 3g, Caracalla
- Legio III Augusta (codwyd gan Augustus) – 43 CC hyd (o leiaf) diwedd y 4g, Augustus
- Legio III Cyrenaica (Cyrenaidd) – tua 36 CC hyd (o leiaf) 5g, Marcus Antonius
- Legio III Gallica (Galaidd) – tua 49 CC hyd o leiaf ddechrau'r 4g, Iŵl Cesar
- Legio III Italica (Eidalaidd) - 165 OC Hyd o leiaf ddechrau'r 4g, Marcus Aurelius
- Legio III Parthica (Parthaidd) - tua 197 OC hyd o leiaf ddechrau'r 5g, Lucius Septimius Severus
- Legio IV Macedonica (Macedoniaidd) - 48 CC hyd 70 OC (chwalwyd gan Vespasian), Iwl Cesar
- ail-grewyd dan yr enw Legio IV Flavia Felix (Fflafiaid ffodus) - tua 70 OC hyd cyn 400 OC, Vespasian
- Legio IV Scythica (Sgythaidd) - tua 42 CC hyd o leiaf ddechrau'r 5g, Marcus Antonius
- Legio V Alaudae (Yr Ehedyddion) - 52 CC hyd 70 OC, Iwl Cesar
- Legio V Macedonica (Macedoniaidd) - 43 CC hyd ar ôl 400 OC, y conswl Gaius Vibius Pansa Caetronianus ac Augustus
- Legio V Urbana, efallai'n enw cynnar ar Legio V Macedonica
- Legio V Gallica, efallai'n enw cynnar ar Legio V Macedonica
- Legio VI Ferrata (Haearnaidd) - 52 CC hyd ar ôl 250 OC, Iwl Cesar
- Legio VI Victrix (Buddugol) - 41 CC hyd diwedd y 4g, Augustus
- Legio VI Hispaniensis (Sbaenaidd), enw arall ar Legio VI Victrix
- Legio VII Claudia Pia Fidelis (lleng ffyddlon a theyrngar y Clawdiaid) - 58 CC hyd ddiwedd y 4g OC, Iŵl Cesar
- Legio VII Paterna (Tadol), enw Legio VII Claudia Pia Fidelis hyd 42 OC
- Legio VII Gemina (Yr Efaill) - Hydref 68 OC hyd diwedd y 4g OC, Galba
- Legio VIII Augusta (ffurfiwyd gan Augustus), 59 CC hyd ar ôl 371 OC - Augustus
- Legio VIII Gallica (Galaidd), enw blaenorol y VIII Augusta
- Legio VIII Mutinensis (Mutinaidd), enw blaenorol y VIII Augusta
- Legio IX Hispana (Sbaenaidd) - cyn 41 CC hyd cyn 160 OC, Augustus
- Legio X Fretensis (O'r culfor) - 41 / 40 CC hyd o leiaf 260 OC, Augustus
- Legio X Gemina (Yr Efaill) - 44 CC hyd ddechrau'r 5g, Lepidus
- Legio XI Claudia Pia Fidelis (lleng y Claudiaid, ffyddlon a theyrngar) - 42 CC hyd ddechrau'r 5g, Augustus
- Legio XII Fulminata (Y Daran) - 43 CC hyd (o leiaf) 5g, Lepidus
- Legio XIII Gemina (Yr Efaill) - 41 CC hyd (o leiaf) 5g, Augustus
- Legio XIV Gemina Martia Victrix (Efaill a buddugol yn filwrol) - Augustus
- Legio XV Apollinaris (yn perthyn i'r duw Apollo) - 41 / 40 CC hyd 5g - Augustus
- Legio XV Primigenia (yn perthyn i'r dduwies Fortuna) - 39 OC hyd 70 OC, Caligula
- Legio XVI Gallica (Galaidd) - 41 / 40 CC hyd 70 OC - Augustus
- ail-ffurfiwyd fel Legio XVI Flavia Firma (lleng Fflafiaidd gadarn) - 70 OC hyd 4g - Vespasian
- Legio XVII - 41 CC hyd 9 OC, Augustus
- (Dinistriwyd y lleng yma a'r ddwy sy'n dilyn, y XVIII a'r XIX, gan yr Almaenwyr ym Mrwydr Fforest Teutoburg yn y flwyddyn 9 OC Ni chawsant eu hail-ffurfio)
- Legio XVIII - 41 CC hyd 9 OC, Augustus
- Legio XX Valeria Victrix (Dewr a Buddugoliaethus) - wedi 31 CC hyd ddiwedd y 3g, Augustus
- Legio XXI Rapax (Rheibiol) - 31 CC hyd 92 OC, Augustus
- Legio XXII Deiotariana (ffurfiwyd gan Deiotarus) - 48 CC hyd tua 132-136 OC Deiotarus
- Legio XXII Primigenia (yn perthyn i'r dduwies Fortuna) - 39 hyd 3g, Caligula
- Legio XXX Ulpia Victrix (Lleng Ulpiaidd fuddugol) - 105 OC hyd ddechrau'r 5g, Trajan
Y llengoedd Rhufeinig tua 80 OC
[golygu | golygu cod]Lleoliad gwersyllfeydd y llengoedd Rhufeinig yn y flwyddyn 80.
Mae'r rhifau yn cyfeirio at:
- Legio IX Hispana: Eburacum (Caer Efrog)
- Legio XX Valeria Victrix a Legio II Adiutrix: Deva (Caer)
- Legio II Augusta: Isca Silurum (Caerllion ar Wysg)
- Legio XXII Primigenia a Legio X Gemina: Noviomagus (Nijmegen)
- Legio VI Victrix: Novaesium (Neuss)
- Legio XXI Rapax: Bonna (Bonn)
- Legio XIV Gemina: Moguntiacum (Mainz)
- Legio I Adiutrix: Brigetio (Szöny)
- Legio VIII Augusta: Argentoratum (Strasbourg)
- Legio XI Claudia: Vindonissa (Windisch)
- Legio XV Apollinaris: Carnuntum (Parc Archaeolegol Carnuntum)
- Legio XIII Gemina: Poetovio (Ptuj)
- Legio VII Claudia: Viminacium (Kostolac)
- Legio V Macedonica: Oescus (Gigen)
- Legio I Italica: Novae (Svishtov)
- Legio V Alaudae:Oescus (Gigen? ansicr!)
- Legio IV Flavia Felix: Burnum (Kistanje)
- Legio XIV Flavia Firma: Satala (Sadagh)
- Legio XII Fulminata: Malatya (Melitene)
- Legio VI Ferrata: Samosata (Samsat)
- Legio IV Scythica: Zeugma (Belkis)
- Legio III Gallica: Raphanaea
- Legio X: Aelia Capitolina (Jerusalem)
- Legio XXII Deiotariana: Nicopolis (Yr Aifft)
- Legio III Cyrenaica: Coptos (Qift)
- Legio III Augusta: Lambaesis (Tazoult-Lambese)
- Legio VII Gemina: Legio (Léon) (Léon)