Galba
Galba | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 3 CC Terracina |
Bu farw | 15 Ionawr 0069 Rhufain |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd, person milwrol |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig |
Tad | Gaius Sulpicius Galba |
Mam | Mummia Achaica, Livia Ocellina |
Priod | Aemilia Lepida |
Plant | Unknown, Unknown, Lucius Calpurnius Piso Frugi Licinianus |
Llinach | Sulpicii Galbae, Livii Ocellae, Julio-Claudian dynasty |
Servius Galba Caesar Augustus neu Galba (24 Rhagfyr 3 CC – 15 Ionawr 69 OC) oedd chweched Ymerawdwr Rhufain. Ganwyd Servius Sulpicius Galba. Roedd yn un o bedwar ymerawdwr yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69 OC).
Ganed Galba yn Tarracina, o deulu bonheddig. Yn ystod teyrnasiad Caligula daeth yn bennaeth ar fyddin Germania Superior. Cymerodd ran yng ngoresgyniad Prydain dan Claudius. Dan yr ymerawdwr Nero daeth yn Rhaglaw ar dalaith Hispania Tarraconensis yn Sbaen. Pan laddodd Nero ei hun yn 68 OC wedi gwrthryfel yn ei erbyn, penderfynodd y Senedd alw Galba i fod yn ymerawdwr.
Roedd Galba yn 71 oed ac yr oedd ei ddau fab wedi marw o'i flaen. Roedd felly yn bwysig ei fod yn dewis ei olynydd yn fuan. Roedd Marcus Salvius Otho wedi gobeithio cael ei ddewis ond yn y diwedd penderfynodd Galba enwi Lucius Calpurnius Piso Frugi Licinianus. Oherwydd hyn cynllwyniodd Otho yn erbyn Galba, a pherswadiodd y milwyr yng ngarsiwn Rhufain i'w gyhoeddi ef yn ymeradwr. Lladdwyd Galba gan rai o'r milwyr, a dilynwyd ef gan Otho.
Rhagflaenydd: Nero |
Ymerawdwr Rhufain 8 Mehefin 68 OC – 15 Ionawr 69 OC |
Olynydd: Otho |