Legio III Parthica
Enghraifft o'r canlynol | Lleng Rufeinig |
---|---|
Lleoliad | Ras al-Ayn |
Lleng Rufeinig a ffurfiwyd yn y flwyddyn 197 gan yr ymerawdwr Septimius Severus oedd Legio III Parthica. Credir mai ei harwyddlun oedd y tarw.
Ffurfiodd Septimius Severus y lleng yma, ynghyd â Legio I Parthica a Legio II Parthica, i ymgyrchu yn erbyn y Parthiaid. Bu'r rhyfel yn llwyddiannus, a choncrwyd gogledd Mesopotamia ac anrheithio Ctesiphon, prifddinas y Parthiaid.
Wedi'r rhyfel, daeth Legio III Parthica yn rhan o garsiwn talaith newydd Mesopotamia, gyda'i gwersyll yn Rhesaena. Yn ystod y 3g, cymerodd y lleng ran mewn nifer o ymgutchoedd yn erbyn y Sassaniaid, yn 217 dan yr ymerawdwr Caracalla, yn 230 dan Alexander Severus ac yn 243 dan Gordian III. Mae'n debyg fod y lleng yn dal yn yr ardal yn y 5g, ond mae'r Notitia dignitatum yn aneglur.