Legio XIII Gemina

Oddi ar Wicipedia

Lleng Rufeinig oedd Legio XIII Gemina ("Efaill"). Codwyd y lleng gan Iŵl Cesar yn 57 CC ar gyfer ei ymgyrch yng Ngâl, a'i symbol oedd y llew. Hon oedd y lleng oedd gyda Cesar pan groesodd afon Rubicon i'r Eidal yn 49 CC, gan ddechrau y rhyfel cartref yn erbyn Pompeius.

Ymladdasant dros Cesar ym mrwydrau Dyrrhachium a Pharsalus. Wedi'r fuddugoliaeth yn erbyn Pompeius. chwalwyd y lleng a rhoddwyd tiroedd i'r hen filwyr, on yn 46 CC, fe'i hail-ffurfiwyd i ymladd yn Affrica. Wedi ennill brwydrau Thapsus a Munda, chwalwyd y lleng eto.

Ail-ffurfiwyd y lleng gan Octavianus, yr ymerawdr Augustus yn ddiweddarach, yn 41 CC. a chafodd yr enw Gemina. Yn 16 CC, symudwyd y lleng i dalaith Pannonia. Wedi i Publius Quinctilius Varus gael ei orchfygu gan y llwythau Almaenaidd ym Mrwydr Fforest Teutoburg yn 9 OC, symudwyd y lleng i Augusta Vindelicorum (Augsburg heddiw). Yn 45, gyrrodd yr ymerawdr Claudius y lleng yn ôl i Pannonia.

Ym Mlwyddyn y Pedwar Ymerawdr, 69, cefnogodd y lleng Otho, ac ymladdasant drosto ym Mrwydr gyntaf Bedriacum yn erbyn byddin Vitellius. Wedi i Otho gael ei orchfygu, cefnogodd y lleng Vespasian yn erbyn Vitellius, gan ymladd yn Ail frwydr Bedriacum yn erbyn byddin Vitellius, yn fuddugol y tro hwn.

Dan yr ymerawdwr Trajan, ymladdasantt yn erbyn y Daciaid. Ceir y cofnod olaf am y lleng yn y Notitia Dignitatum, tua 400, pan oedd ar afon Ewffrates.