Brwydr gyntaf Bedriacum

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ymladdwyd Brwydr gyntaf Bedriacum ar 14 Ebrill 69 O.C. gerllaw Bedriacum yng ngogledd yr Eidal rhwng dwy fyddin Rufeinig. Roedd yn un o nifer o frwydrau a ymladdwyd yn yr hyn a ddaeth i'w galw'n Flwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, rhwng byddin yr ymerawdwr Otho a byddin Vitellius, oedd wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr gan y llengoedd ar afon Rhein.

Roedd Vitellius yn symud i gyfeiriad dinas Rhufain gyda dwy leng lawn, Legio V Alaudae a Legio XXI Rapax, ynghyd a rhai o filwyr nifer o lengoedd eraill a milwyr cynorthwyol, tua 70,000 i gyd. I'w gwrthwynebu, roedd gan Otho ddwy leng, Legio I Adiutrix a Legio XIII Gemina, gyda rhai milwyr o Legio XIIII Gemina a Gard y Praetoriwm.

Enillodd milwyr Otho un fuddugoliaeth dros ran o fyddin Vitellius ger Cremona dan y cadfridog Gaius Suetonius Paulinus. Fodd bynnag cododd amheuaeth am deyrngarwch Suetonius Paulinus, a phan gynghorodd y dylid osgoi brwydr am gyfnod, anwybyddwyd ei farn ac ymosododd milwyr Otho ar y gelyn. Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth i fyddin Vitellius, gyda tua 40,000 o laddedigion.

Roedd Otho ei hun wedi aros ar ôl yn Brixellum i ddisgwyl canlyniad y frwydr, a phan glywodd fod ei fyddin wedi colli'r dydd, penderfynodd ei ladd ei hun yn hytrach na pharhau i ymladd. Aeth Vitellius ymlaen i feddiannu Rhufain.