Brwydr Gyntaf Bedriacum
Enghraifft o'r canlynol | brwydr |
---|---|
Dyddiad | 14 Ebrill 0069 |
Rhan o | Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, Brwydr Bedriacum |
Lleoliad | Cremona |
Gwladwriaeth | yr Eidal |
Ymladdwyd Brwydr Gyntaf Bedriacum ar 14 Ebrill 69 O.C. gerllaw Bedriacum yng ngogledd yr Eidal rhwng dwy fyddin Rufeinig. Roedd yn un o nifer o frwydrau a ymladdwyd yn yr hyn a ddaeth i'w galw'n Flwyddyn y Pedwar Ymerawdwr, rhwng byddin yr ymerawdwr Otho a byddin Vitellius, oedd wedi ei gyhoeddi'n ymerawdwr gan y llengoedd ar afon Rhein.
Roedd Vitellius yn symud i gyfeiriad dinas Rhufain gyda dwy leng lawn, Legio V Alaudae a Legio XXI Rapax, ynghyd â rhai o filwyr nifer o lengoedd eraill a milwyr cynorthwyol, tua 70,000 i gyd. I'w gwrthwynebu, roedd gan Otho ddwy leng, Legio I Adiutrix a Legio XIII Gemina, gyda rhai milwyr o Legio XIIII Gemina a Gard y Praetoriwm.
Enillodd milwyr Otho un fuddugoliaeth dros ran o fyddin Vitellius ger Cremona dan y cadfridog Gaius Suetonius Paulinus. Fodd bynnag cododd amheuaeth am deyrngarwch Suetonius Paulinus, a phan gynghorodd y dylid osgoi brwydr am gyfnod, anwybyddwyd ei farn ac ymosododd milwyr Otho ar y gelyn. Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth i fyddin Vitellius, gyda tua 40,000 o laddedigion.
Roedd Otho ei hun wedi aros ar ôl yn Brixellum i ddisgwyl canlyniad y frwydr, a phan glywodd fod ei fyddin wedi colli'r dydd, penderfynodd ei ladd ei hun yn hytrach na pharhau i ymladd. Aeth Vitellius ymlaen i feddiannu Rhufain.