Brwydr Bedriacum
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | brwydr ![]() |
---|---|
Dyddiad | 14 Ebrill 0069 ![]() |
Rhan o | Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr ![]() |
Lleoliad | Cremona ![]() |
![]() |
Gall Brwydr Bedriacum, weithiau Brwydr Cremona, gyfeirio at ddwy frwydr a ymladdwyd rhwng byddinoedd Rhufeinig yn 69 O.C. ger pentref Bedriacum a thref Cremona yng ngogledd yr Eidal. Roedd y ddwy frwydr yn frwydau allweddol yn rhyfeloedd Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr.
Ym Mrwydr gyntaf Bedriacum ar 14 Ebrill, gorchfygwyd byddin Otho gan fyddin Vitellius. Lladdodd Otho ei hun, a meddiannodd Vitellius ddinas Rhufain fel ymerawdwr.
Yn Ail frwydr Bedriacum ar 24 - 25 Hydref, gorchfygwyd byddin Vitellius gan fyddin oedd yn cefnogi Vespasian, dan Antonius Primus. Aeth Primus ymlaen i feddiannu Rhufain, gan osod Vespasian ar yr orsedd fel ymerawdwr, a rhoi diwedd ar y rhyfel cartref.