Ail frwydr Bedriacum

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Ymladdwyd Ail frwydr Bedriacum ar 24 - 25 Hydref, 69, rhwng dwy fyddin Rufeinig, un yn cefnogi yr ymerawdwr Vitellius a'r llall yn cefnogi Vespasian, dan Antonius Primus. Roedd yn un o frwydrau olaf Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr.

Roedd Vespasian yn nhalaith Judea, wedi ei yrru yno gan yr ymerawdwr Nero i ddelio a gwrthryfel yr Iddewon. Yn dilyn hunanladdiad Nero yn 68, lladdwyd ei olynydd Galba yn 69 a chyhoeddwyd Otho yn ymerawdwr, cyn iddo yntau gael ei ddisodli gan Vitellius. Trafododd Vespasian y mater gyda rhaglaw Syria, Gaius Licinius Mucianus, a chyhoeddodd llengoedd Judea a Syria Vespasian fel ymerawdwr. Cefnogwyd Vespasian hefyd gan y llengoedd ar Afon Donaw dan Marcus Antonius Primus, a'r llengoedd hyn oedd y cyntaf i gyrraedd yr Eidal. Gyrroedd Vitellius fyddin i'w cyfarfod, a daeth y ddwy fyddin i wrthdrawiad ger Bedriacum a dinas Cremona yng ngogledd yr Eidal.

Diweddodd y frwydr mewn buddugoliaeth i gefnogwyr Vespasian. Aeth Primus ymlaen i feddiannu Rhufain, gan ladd Vitellius a gosod Vespasian ar yr orsedd fel ymerawdwr. Rhoddodd hyn ddiwedd ar y rhyfel cartref.