Legio IX Hispana
| Enghraifft o: | Lleng Rufeinig |
|---|---|
| Lleoliad | Sisak, Efrog, Britannia, Germania Inferior |
| Sylfaenydd | Gnaeus Pompeius Magnus |
| Gwladwriaeth | Rhufain hynafol |
| Rhanbarth | Sir Sisak-Moslavina |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/020bks |
Lleng Rufeinig oedd Legio IX Hispana ("o Hispania"). Credir i'r lleng gael ei ffurfio gan Iŵl Cesar cyn 58 CC, ar gyfer ei ryfeloedd yng Ngâl.
Ymladdodd y lleng yn holl ymgyrchoedd Cesar yng Ngâl, yna ymladdasant drosto yn y rhyfeloedd cartref yn erbyn Pompeius. Roeddynt yn bresennol mewn nifer o'r brwydrau, yn cynnwys Brwydr Dyrrhachium a Brwydr Pharsalus (48 CC). Wedi i Cesar ennill y fuddugoliaeth, dadsefydlwyd y lleng a roddwyd tir i'r cyn-filwyr yn ardal Picenum.
Wedi i Cesar gael ei lofruddio, ail-ffurfiwyd y lleng gan Augustus i ymladd yn erbyn Sextus Pompeius. Yn ddiweddarach gyrrwyd hwy i Facedonia a buont yn ymladd dros Augustus yn erbyn Marcus Antonius ym Mrwydr Actium. Wedi i Augustus ennill grym, gyrrwyd y lleng i Hispania i ymladd yn erbyn y Cantabriaid; mae'n debyg mai yn yr ymgyrch yma y cawsant yr enw "Hispana".
Wedi hyn bu'r lleng yn gwarchod ffin Afon Rhein, yna yn Pannonia. Yn 43 roeddynt yn rhan o ymgyrch Rhufain yn erbyn Prydain, dan Aulus Plautius. Dan Quintus Petillius Cerialis dioddefasant golledion sylweddol yn ystod gwrthryfel Buddug yn 61. Credid am gyfnod fod y lleng wedi diflannu yng ngwledydd Prydain, efallai yn ystod brwydro yn yr Alban. Hyn yw cefndir y nofel The Eagle of the Ninth gan Rosemary Sutcliff, a nifer o nofelau eraill.