Quintus Petillius Cerialis

Oddi ar Wicipedia
Quintus Petillius Cerialis
Ganwydc. 30 Edit this on Wikidata
Bu farwc. 83 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person milwrol Edit this on Wikidata
Swyddseneddwr Rhufeinig, llywodraethwr Rhufeinig, Conswl Rhufeinig Edit this on Wikidata
PriodDomitila'r Ieuengaf Edit this on Wikidata
PlantQuintus Petillius Rufus, Gaius Petillius Firmus, Flavia Domitilla Edit this on Wikidata

Cadfridog Rhufeinig oedd Quintus Petilius Cerialis Caesius Rufus (ganed tua 30 O.C.).

Penodwyd ef yn legad y lleng Legio IX Hispana ym Mhrydain pan oedd Gaius Suetonius Paulinus yn llywodraethwr. Cymerodd ran yn yr ymladd yn erbyn gwrthryfel Buddug a'r Iceni yn 60 - 61, er iddo gael ei orchfygu wrth iddo geisio achub dinas Camulodunum (Colchester heddiw),

Yn ystod Blwyddyn y Pedwar Ymerawdwr (69), cefnogodd ei dad-yng-nghyfraith Vespasian; roedd Cerialis yn briod a merch Vespasian, Flavia Domitilla. Cymerwyd ef yn garcharor gan Vitellius am gyfnod, ond llwyddodd i ddianc, a chymerodd ran yn yr ymosodiad a gipiodd ddinas Rhufain i Vespasian. Wedi i Vespasian ddod yn ymerawdwr, penodwyd ef yn legad Legio XIV Gemina yn Germania Inferior, lle bu'n ymladd yn erbyn Gwrthryfel y Batafiad dan Julius Civilis. Llwyddodd Cerialis i orchfygu Civilis.

Yn 71, penodwyd ef yn llywodraethwr Prydain, a daeth a Legio II Adiutrix gydag ef i'r dalaith. Yn ystod ei gyfnod fel llywodraethwr, ymladdodd yn erbyn y Brigantes yng ngogledd Lloegr. Dychwelodd i Rufain yn 74, a daliodd swydd conswl ddwywaith, yn 74 ac 83.