Neidio i'r cynnwys

Llwybrau Lleol y Cymoedd a Chaerdydd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Rheilffyrdd y Cymoedd)

Llwybrau Lleol y Cymoedd a Chaerdydd (Saesneg Valleys & Cardiff Local Routes) yw'r rhwydwaith prysur o wasanaethau i deithwyr rheilffordd faestrefol sy'n ymestyn o Gaerdydd, Cymru. Mae'n cynnwys llinellau o fewn y ddinas ei hun, Bro Morgannwg a Chymoedd De Cymru.

Mae'r gwasanaethau yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd gan Trafnidiaeth Cymru. Yn gyfan gwbl, mae'n ei gwasanaethu 81 gorsaf mewn chwe ardal awdurdod unedol: 20 yn ninas Caerdydd, 11 ym Mro Morgannwg, 25 yn Rhondda Cynon Taf, 15 yng Nghaerffili, 8 ym Mhen-y-bont ar Ogwr a 5 ym Merthyr Tudful.

Llinellau

[golygu | golygu cod]

Dyma restr o linellau sydd mewn gwasanaeth ar hyn o bryd:

Cangen Tre-Biwt Llinell Dinas Llinell Coryton Llinell Bro Morgannwg


Llinell Merthyr (Cangen Merthyr) Llinell Merthyr (Cangen Aberdâr) Llinell Rhondda Llinell Rhymni
Eginyn erthygl sydd uchod am reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.