Gorsaf reilffordd Bae Caerdydd

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gorsaf reilffordd Bae Caerdydd
Bae Caerdydd - Arriva 153367.JPG
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadBae Caerdydd Edit this on Wikidata
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4671°N 3.1665°W Edit this on Wikidata
Cod OSST190748 Edit this on Wikidata
Rheilffordd
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafCDB Edit this on Wikidata
Rheolir ganTrafnidiaeth Cymru Edit this on Wikidata
Map

Mae gorsaf reilffordd Bae Caerdydd (Saesneg: Cardiff Bay railway station), a adnabyddid gynt fel "Caerdydd Heol Bute", yn orsaf sydd yn gwasanaethu Bae Caerdydd ac ardal Tre-Biwt. Mae'n derfyn deheuol Llinell Gangen Butetown un filltir (1.5 km) i'r de o orsaf Heol y Frenhines.

Dim ond un llwyfan sydd bellach yn cael ei defnyddio, gydag adeilad yr orsaf ei hun wedi'i gadael i fynd a'i ben iddo i bob pwrpas. Mae adeilad yr orsaf yn gorwedd ar Stryd Bute, er bod gweddill yr orsaf yn parhau i fod yn weladwy o Rodfa Lloyd George.

Mae'r orsaf o fewn pellter cerdded i'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu darparu gan Trafnidiaeth Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Agorodd yr orsaf fel gorsaf "Dociau Caerdydd" ym 1840 gan y Taff Vale Railway (peirianydd: Isambard Kingdom Brunel). Ail-enwyd yn orsaf "Stryd Biwt" gan Reilffordd y Great Western ym 1924, cyn newid i'w enw presennol ym 1994. Adnewyddwyd yr adeilad yn ystod yr 1980au a defnyddwyd am gyfnod fel amgueddfa reilffordd gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru a Chymdeithas Reilffordd Hanesyddol Biwt (a symudodd ym 1997 i Reilffordd Bro Morgannwg).[1]

Gwasanaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae yna wasanaethau rhwng Heol y Frenhines a Bae Caerdydd bob 12 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn (rhwng 0630 a 2330) a phob 12 munud ar ddydd Sul (rhwng 1100 a 1630). Mae'n cael ei redeg gan "car swigen" Dosbarth 121, a adeiladwyd ym 1960.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Hutton, John (2006). The Taff Vale Railway, vol. 1. Silver Link