Gorsaf reilffordd Aberdâr

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Aberdâr
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlAberdâr Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1988 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1988 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberdâr Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7145°N 3.442°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO004027 Edit this on Wikidata
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafABA Edit this on Wikidata
Rheolir ganTrenau Arriva Cymru Edit this on Wikidata
Map

Mae gorsaf reilffordd Aberdâr (Saesneg: Aberdare) yn gwasanaethu tref Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf, Cymru. Dyma derfynfa cangen Aberdâr o Linell Merthyr, sydd wedi'i lleoli tua 38 km (23.5 milltir) i'r gogledd o Gaerdydd Canolog. Mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu darparu gan Trafnidiaeth Cymru.

Hanes[golygu | golygu cod]

Cafodd yr orsaf yn y lleoliad hwn (yr hen Lefel Uchaf Aberdâr) ei hagor ym 1851 a chafodd ei gwasanaethu gan y trenau Vale of Neath, Great Western Railway yn ddiweddarach ar eu taith rhwng Castell-nedd a Ffordd Pont-y-pŵl. Agorwyd y llinell o Abercynon a Chaerdydd ym 1846 gan Aberdare Railway Company (amsugno yn ddiweddarach gan y Taff Vale Railway) - roedd hyn yn rhedeg i orsaf gyfagos ond ar wahân ar Lefel Isel Aberdâr. Cafodd y ddau lwybr eu cysylltu yn ddiweddarach pellter byr i'r gorllewin o'r dref wrth Gyffordd Gadlys.

Cafodd gwasanaethau i deithwyr i mewn i'r dref eu cau o ganlyniad yr Beeching Axe yn 1964, gyda'r trên olaf yn rhedeg ar y lein Vale of Neath ar 13 Mehefin a'r llinell cyn-TVR yn dioddef tynged debyg ar 30 Hydref. Fodd bynnag, parhaodd rhan o'r llinell Vale of Neath y dref ar gyfer trenau glo yn gwasanaethu Glofa'r Tŵr yn Hirwaun.

Gorsaf presennol[golygu | golygu cod]

Roedd y ffaith bod y llinell trwy'r dref dal agored yn ei gwneud yn bosibl i adfer gwasanaethau i deithwyr i'r dref, a ddechreuodd eto yn Hydref 1988 gan ddefnyddio platfform newydd yn agos i'r hen un segur (mae adeilad yr orsaf Lefel Uchel hen dal i sefyll a gellir eu gweld o'r orsaf bresennol).

Gwasanaethau[golygu | golygu cod]

Yn ystod y dydd o dydd Llun i dydd Sadwrn, mae'r gwasanaeth o Aberdâr yn wasanaeth bob hanner awr i Ynys y Barri, drwy Heol y Frenhines Caerdydd. Yn ystod y nos mae'n gostwng i bob awr a rhai trenau hwyr yn rhedeg i Benarth yn hytrach na Ynys y Barri. Ar y Sul mae yna wasanaeth bob 2 awr i Ynys y Barri.

Yn flaenorol roedd bws rail linc penodol a oedd yn cysylltu â'r trên a oedd ond ar gael i deithwyr trên a'u gweithredu i Penywaun, Hirwaun, Cefn Rhigos a Rhigos. Er nad yw y gwasanaeth hwn yn gweithredu, mae tocynnau yn dal yn ddilys i'w ddefnyddio ar wasanaethau Stagecoach i'r cymunedau uchod.

Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.