Gorsaf reilffordd Cathays

Oddi ar Wicipedia
Gorsaf reilffordd Cathays
Mathgorsaf reilffordd Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1983 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1983 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCaerdydd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4891°N 3.1793°W Edit this on Wikidata
Cod OSST182773 Edit this on Wikidata
Nifer y platfformauEdit this on Wikidata
Côd yr orsafCYS Edit this on Wikidata
Map

Mae gorsaf reilffordd Cathays yn gorwedd ar linell Merthyr Tudful a Rhondda yn ardal Cathays o Gaerdydd, Cymru. Mae'r orsaf yn ddwy gilomedr (1 ¼ milltir) i'r gogledd o Gaerdydd Canolog.

Mae'r orsaf wedi ei lleoli y drws nesaf i Undeb Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd 'a thaith gerdded fer oddi wrth Lywodraeth Cynulliad Cymru ac adeiladau dinesig eraill ym Mharc Cathays. Mae'r bont droed dros y rheilffordd yn cael ei defnyddio fel llwybr tarw rhwng Plas y Parc a Ffordd Senghennydd. Pan agorodd Cathays yn 1983 fe wnaeth e wrthdroi tueddiad i gau gorsafoedd trwy fod yn un o'r gorsafoedd cyntaf i'w hadeiladu yng Nghymru am 60 mlynedd.

Mae gorsaf Cathays wedi cael ei staffio yn ystod yr oriau brig, yn dilyn cyflwyniad system newydd rhwystr tocynnau awtomataidd yn Haf 2007. Mae gan yr orsaf ddau blatfform, y ddau gyda cysgodfan bychan a sgrin arddangos gwybodaeth. Mae maes parcio ar ochr Ffordd Senghennydd, sy'n eiddo i'r Brifysgol ac nid ar gyfer defnydd cyffredinol y cyhoedd.

Gwasanaethau[golygu | golygu cod]

Yn ystod y dydd, rhwng dydd Llun a dydd Sadwrn, mae fel arfer tua chwe thrên yr awr yn galw o Gaerdydd Canolog i gyrchfannau megis Aberdâr, Pontypridd, Treherbert a Merthyr Tudful. Mae rhai trenau yn parhau i deithio y tu hwnt i Gaerdydd: i Benarth, Ynys y Barri neu Ben-y-bont ar Ogwr drwy llinell Bro Morgannwg.

Mae cyfnewidfa bysiau tua'r gogledd.

Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.