Ralph Abercromby

Oddi ar Wicipedia
Ralph Abercromby
Ganwyd7 Hydref 1734 Edit this on Wikidata
Tullibody Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 1801 Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Teyrnas Prydain Fawr Teyrnas Prydain Fawr
Baner Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon
Alma mater
Galwedigaethswyddog milwrol, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 16eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
TadGeorge Abercromby of Tullibody Edit this on Wikidata
MamMary Dundas Edit this on Wikidata
PriodMary Abercromby, Barwnes 1af Abercromby Edit this on Wikidata
PlantGeorge Abercromby, 2nd Baron Abercromby, James Abercromby, John Abercromby, Alexander Abercromby, Anne Abercromby, Mary Abercromby, Catherine Abercromby Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Cadlywydd Urdd y Baddon Edit this on Wikidata

Milwr a gwleidydd Albanaidd oedd Syr Ralph Abercromby KB (sillefir weithiau Abercrombie; 7 Hydref 173428 Mawrth 1801) a gofir yn bennaf am ei fuddugoliaeth yn erbyn y Ffrancod ym Mrwydr Alecsandria (1801). Gwasanaethodd ddwywaith yn Aelod dros Swydd Clackmannan yn Senedd Prydain Fawr. Cododd i reng is-gadfridog yn y Fyddin Brydeinig, penodwyd ef yn Llywodraethwr Trinidad. Gwasanaethodd fel Prif Gadlywydd, Iwerddon, a chafodd ei nodi am ei wasanaethau yn ystod Rhyfeloedd Chwyldroadol Ffrainc.[1]

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Ralph Abercromby ar 7 Hydref 1734 yn Tullibody, Swydd Clackmannan, yr Alban, yn fab i'r cyfreithiwr George Abercromby a'i wraig Mary (née Dundas). Wedi iddo dderbyn addysg gan diwtor preifat, aeth i'r ysgol ramadeg yn Alloa ac i ysgol fonedd Rugby. Astudiodd ym mhrifysgolion Caeredin a Leipzig.

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod]

Wedi iddo orffen ei gyfnod yn y brifysgol, ymunodd Abercromby â'r 3ydd Gwarchodlu Dragŵn fel cornet (dirprwy is-gapten) ym 1756. Gwasanaethodd gyda'i gatrawd yn y Rhyfel Saith Mlynedd. Cododd Abercromby trwy'r rengoedd canolig i reng raglaw-gyrnol y gatrawd (1773) a chyrnol mygedol ym 1780. Ym 1781, daeth yn gyrnol catrawd newydd Troedfilwyr Gwyddelig y Brenin. Pan ddiddymwyd y gatrawd ym 1783, ymddeolodd ar hanner cyflog. Aeth i'r Senedd fel AS Clackmannanshire (1774-1780).[2]

Pan wnaeth Ffrainc datganiad o ryfel yn erbyn Prydain Fawr ym 1793, ailymunodd Abercromby â'r fyddin. Fe ragorodd fel uwchfrigadydd yn Fflandrys o dan Frederick, Dug Efrog. Yna arweiniodd ymgyrch milwrol llwyddiannus yn erbyn y Ffrancwyr yn St Lucia a Trinidad. Cafodd ei benodi'n Llywodraethwr Trinidad [3]

Ar ôl i Abercromby ddychwelyd i Ewrop bu'n rheolwr milwrol yn yr Alban ac Iwerddon. Aeth i'r Senedd eto fel yr aelod dros Swydd Clackmannan rhwng 1796 a 1798.

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Ym 1801, anfonwyd yr Is-gadfridog Abercromby gyda byddin i fwrw lluoedd Ffrainc allan o'r Aifft, yn sgil goresgyniad y wlad honno gan Napoleon Bonaparte ym 1798. Wrth arwain ymgyrch lwyddiannus yn erbyn y Ffrancod ym Mae Aboukir, ger Alecsandria, cafodd ei daro gan bêl fysged yn ei glun. Cafodd ei gyfleu i fwrdd ei long a angorwyd yn yr harbwr. Doedd dim modd echdynnu'r bêl; a saith diwrnod yn ddiweddarach, bu farw o'i glwyfau yn 66 oed.

Fe'i claddwyd ym Malta, lle codwyd cofeb syml er cof amdano. Codwyd eraill yn Eglwys Gadeiriol Sant Pawl, Llundain ac yn St Giles, Caeredin. Crëwyd ei weddw yn Farwnes Abercromby o Aboukir a Tullibody a rhoddwyd pensiwn o £2000 iddi gan y senedd.

Teulu[golygu | golygu cod]

Ar 17 Tachwedd 1767, priododd Abercromby â Mary Anne, merch John Menzies ac Ann, merch Patrick Campbell. Bu iddynt saith o blant. O'r pedwar mab, aeth y pedwar i'r Senedd, a gwelodd dau wasanaeth milwrol:

  • Yr Anrh. Anne Abercromby (1768 - 1832)
  • Yr Anrh. Mary Abercromby (1773 - 1825)
  • Yr Anrh. Catherine Abercromby (1780 1841
  • George Abercromby, 2il Farwn Abercromby (1770-1843)
  • Cadfridog yr Anrh. Syr John Abercromby (1772–1817)
  • James Abercromby, Barwn 1af Dunfermline (1776–1858)
  • Is-gyrnol yr Anrh. Alexander Abercromby (1784–1853)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Ralph Abercromby - Bywgraffiadur Rhydychen
  2. Ralph Abercromby - Gwefan History of Parliament
  3. Thorne, J. O.; Collocott, T. C., gol. (1984). Chambers biographical dictionary. Caeredin: Chambers. ISBN 0-550-16010-8. OCLC 13665413.