Pibydd yr aber
Pibydd yr aber Calidris canutus | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Calidris[*] |
Rhywogaeth: | Calidris canutus |
Enw deuenwol | |
Calidris canutus | |
Dosbarthiad y rhywogaeth |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd yr aber (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion yr aber) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Calidris canutus; yr enw Saesneg arno yw red knot. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. canutus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia.
Mae Pibydd yr aber yn nythu yng ngogledd Ewrop, gogledd Asia a gogledd Canada. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, gyda'r adar sy'n nythu yn Ewrop ac Asia yn symud cyn belled ag Affrica ac Awstralia a'r adar sy'n nythu yng Ngogledd America yn symud cyn belled a'r Ariannin. Adeiledir y nyth ar lawr, ac mae'n dodwy 3-4 wy.
Mae'n aderyn canolig o ran maint, 23–26 cm o hyd a 47–53 cm ar draws yr adenydd. Yn y tymor nythu mae'n aderyn tarawiadol gyda lliw cochaidd ar y pen a'r fron a bol ychydig yn oleuach. Yn y gaeaf mae'n llwyd, tywyllach ar y cefn a goleuach ar y bol.
Yn y gaeaf mae'n bwydo o gwmpas glannau'r môr lle mae mwd ar gael, ac maent yn bwydo ar unrhyw greaduriaid bychain y gallant eu darganfod yn y mwd. Maent yn hel at ei gilydd yn heidiau mawr yr adeg yma o'r flwyddyn.
Mae Pibydd yr aber yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru yn y gaeaf ond nid ymddengys fod cofnod iddo erioed nythu yma.
Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r pibydd yr aber yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Gïach Affrica | Gallinago nigripennis | |
Gïach Is-Antarctig | Coenocorypha aucklandica | |
Gïach Japan | Gallinago hardwickii | |
Gïach Madagasgar | Gallinago macrodactyla | |
Gïach Swinhoe | Gallinago megala | |
Gïach brongoch | Limnodromus griseus | |
Gïach cynffonfain | Gallinago stenura | |
Gïach gylfinhir | Limnodromus scolopaceus | |
Gïach mynydd y Gogledd | Gallinago stricklandii | |
Gïach unig | Gallinago solitaria | |
Pibydd Twamotw | Prosobonia cancellata |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.