Pibydd yr aber

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Pibydd yr aber
Calidris canutus

Calidris canutus no.JPG, Calidris canutus (summer).jpg, Red Knot 1 - Boat Harbour.jpg

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Calidris[*]
Rhywogaeth: Calidris canutus
Enw deuenwol
Calidris canutus
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd yr aber (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion yr aber) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Calidris canutus; yr enw Saesneg arno yw Red knot. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. canutus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia.

Mae Pibydd yr aber yn nythu yng ngogledd Ewrop, gogledd Asia a gogledd Canada. Yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, gyda'r adar sy'n nythu yn Ewrop ac Asia yn symud cyn belled ag Affrica ac Awstralia a'r adar sy'n nythu yng Ngogledd America yn symud cyn belled a'r Ariannin. Adeiledir y nyth ar lawr, ac mae'n dodwy 3-4 wy.

Pibyddion yr aber yn y gaeaf
Calidris canutus

Mae'n aderyn canolig o ran maint, 23–26 cm o hyd a 47–53 cm ar draws yr adenydd. Yn y tymor nythu mae'n aderyn tarawiadol gyda lliw cochaidd ar y pen a'r fron a bol ychydig yn oleuach. Yn y gaeaf mae'n llwyd, tywyllach ar y cefn a goleuach ar y bol.

Yn y gaeaf mae'n bwydo o gwmpas glannau'r môr lle mae mwd ar gael, ac maent yn bwydo ar unrhyw greaduriaid bychain y gallant eu darganfod yn y mwd. Maent yn hel at ei gilydd yn heidiau mawr yr adeg yma o'r flwyddyn.

Mae Pibydd yr aber yn aderyn gweddol gyffredin yng Nghymru yn y gaeaf ond nid ymddengys fod cofnod iddo erioed nythu yma.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r pibydd yr aber yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:


rhywogaeth enw tacson delwedd
Coegylfinir Numenius phaeopus
Whimbrel Numenius phaeopus.jpg
Coegylfinir bach Numenius minutus
Numenius minutus 1.jpg
Gylfinir Numenius arquata
Eurasian Curlew.jpg
Gylfinir America Numenius americanus
Curlew - natures pics.jpg
Gylfinir Tahiti Numenius tahitiensis
Bristle-thighed Curlew.jpg
Gylfinir pigfain Numenius tenuirostris
Naturalis Biodiversity Center - ZMA.AVES.1670 - Numenius tenuirostris Vieillot, 1817 - Scolopacidae - skin specimen.jpeg
Gylfinir y Dwyrain Numenius madagascariensis
Far Eastern Curlew cairns RWD2.jpg
Gylfinir y Gogledd Numenius borealis
Numenius borealis (Harvard University).JPG
Llydandroed Wilson Phalaropus tricolor
Phalaropus tricolor - breeding female.jpg
Llydandroed gyddfgoch Phalaropus lobatus
Red-necked Phalarope.jpg
Llydandroed llwyd Phalaropus fulicarius
Phalaropus fulicarius 10.jpg
Pibydd brych Actitis macularius
Actitis-macularia-005.jpg
Pibydd y dorlan Actitis hypoleucos
Common sandpiper lake geneva-4.jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Safonwyd yr enw Pibydd yr aber gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.