Pibydd cambig
Pibydd cambig Calidris ferruginea
| |||
---|---|---|---|
Statws cadwraeth | |||
Dosbarthiad gwyddonol | |||
Teyrnas: | Animalia | ||
Ffylwm: | Chordata | ||
Dosbarth: | |||
Urdd: | Charadriiformes | ||
Teulu: | Scolopacidae | ||
Genws: | Calidris[*] | ||
Rhywogaeth: | Calidris ferruginea | ||
Enw deuenwol | |||
Calidris ferruginea |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd cambig (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion cambig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Calidris ferruginea; yr enw Saesneg arno yw Curlew sandpiper. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru. Nid yw'n nythu yng Nghymru, ond gwelir niferoedd o gwmpas y glannau yn yr hydref ambell flwyddyn. Ceir ambell unigolyn yn y gaeaf nei'r gwanwyn.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. ferruginea, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia.
Mae'r Pibydd Cambig yn nythu yn yr Arctic, yng ngogledd Siberia. Mae'n aderyn mudol, ac yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, cyn belled ag Affrica, de-ddwyrain Asia ac Awstralia. Yn y gaeaf maent yn hel at ei gilydd yn heidiau, weithiau gyda rhydyddion eraill. Fe'i ceir yn aml gyda Pibydd y Mawn, a gall fod yn anodd eu gwahaniaethu tu allan i'r tymor nythu. Mae'r Pibydd Cambig ychydig yn fwy, 19.5–21 cm o hyd, ac mae'r pig yn hirach ac yn troi at i lawr. Yn y tymor nythu, mae ganddo gefn llwyd a bol coch.
Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r pibydd cambig yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Cyffylog | Scolopax rusticola | |
Gïach Cyffredin | Gallinago gallinago | |
Pibydd y Dorlan | Actitis hypoleucos | |
Rhostog gynffonddu | Limosa limosa | |
Rhostog gynffonfraith | Limosa lapponica |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.

