Neidio i'r cynnwys

Pibydd cambig

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Pibydd Cambig)
Pibydd cambig
Calidris ferruginea

,

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Scolopacidae
Genws: Calidris[*]
Rhywogaeth: Calidris ferruginea
Enw deuenwol
Calidris ferruginea
Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Pibydd cambig (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: pibyddion cambig) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Calidris ferruginea; yr enw Saesneg arno yw Curlew sandpiper. Mae'n perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae) sydd yn urdd y Charadriiformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru. Nid yw'n nythu yng Nghymru, ond gwelir niferoedd o gwmpas y glannau yn yr hydref ambell flwyddyn. Ceir ambell unigolyn yn y gaeaf nei'r gwanwyn.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn C. ferruginea, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia, Ewrop, Affrica ac Awstralia.

Mae'r Pibydd Cambig yn nythu yn yr Arctic, yng ngogledd Siberia. Mae'n aderyn mudol, ac yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, cyn belled ag Affrica, de-ddwyrain Asia ac Awstralia. Yn y gaeaf maent yn hel at ei gilydd yn heidiau, weithiau gyda rhydyddion eraill. Fe'i ceir yn aml gyda Pibydd y Mawn, a gall fod yn anodd eu gwahaniaethu tu allan i'r tymor nythu. Mae'r Pibydd Cambig ychydig yn fwy, 19.5–21 cm o hyd, ac mae'r pig yn hirach ac yn troi at i lawr. Yn y tymor nythu, mae ganddo gefn llwyd a bol coch.

Mae'r pibydd cambig yn perthyn i deulu'r Pibyddion (Lladin: Scolopacidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Gïach Affrica Gallinago nigripennis
Gïach Is-Antarctig Coenocorypha aucklandica
Gïach Japan Gallinago hardwickii
Gïach Madagasgar Gallinago macrodactyla
Gïach Swinhoe Gallinago megala
Gïach brongoch Limnodromus griseus
Gïach cynffonfain Gallinago stenura
Gïach gylfinhir Limnodromus scolopaceus
Gïach mynydd y Gogledd Gallinago stricklandii
Gïach unig Gallinago solitaria
Pibydd Twamotw Prosobonia cancellata
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
Safonwyd yr enw Pibydd cambig gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.