Peter Mayhew
Peter Mayhew | |
---|---|
Ganwyd | Peter William Mayhew 19 Mai 1944 Barnes |
Bu farw | 30 Ebrill 2019 Boyd |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor ffilm, cynorthwyydd nyrs, actor, actor teledu |
Taldra | 218 centimetr |
Gwefan | http://www.chewbacca.com |
Actor o Loegr a ddaeth yn ddinesydd yr Unol Daleithiau oedd Peter William Mayhew (19 Mai 1944 – 30 Ebrill 2019) a oedd yn fwyaf adnabyddus am bortreadu Chewbacca yn y gyfres ffilm Star Wars. Chwaraeodd y cymeriad mewn ymddangosiadau byw o'r ffilm wreiddiol yn 1977 hyd at The Force Awakens yn 2015 cyn iddo ymddeol o'r rôl.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Ganwyd Peter Mayhew ar 19 Mai 1944 yn Barnes, Surrey.[1] Nid oedd ei daldra o ganlyniad i gigantiaeth; "Does gen i ddim y pen mawr", meddai Mayhew pan ofynnwyd iddo am achos ei daldra.[2][3] Ei daldra uchaf oedd 7 troedfedd 3 modfeddi (2.21 m).[4]
Gwaith cynnar
[golygu | golygu cod]Cafodd Mayhew ei swydd actio cyntaf ym 1976 pan fe'i ddarganfyddwyd gan gynhyrchwyr Sinbad and the Eye of the Tiger mewn erthygl papur newydd am ddynion â thraed mawr, ac fe'i ddewiswyd i chwarae rôl y minotaur.[5][6]
Wrth gastio ei ffilm Star Wars gyntaf, roedd y crëwr George Lucas angen actor tal a allai chwarae rhan yr aliwn blewog Chewbacca. Yn wreiddiol roedd yn ystyried y corffluniwr 6 troedfedd 6 modfeddi (1.98 m) David Prowse, ond dewisodd Prowse chwarae Darth Vader. Yn dilyn proses o chwilio gan Lucas, darganfu Mayhew, a oedd yn gweithio fel cynorthwywr yn adran radioleg Ysbyty Coleg y Brenin, Llundain,[7] a dywedodd mai'r unig beth oedd rhaid iddo ei wneud i chwarae rhan Chewbacca oedd sefyll.[8][9]
Chwaraeodd Mayhew ran Chewbacca mewn pum ffilm Star Wars: y drioleg wreiddiol (Star Wars, The Empire Strikes Back a Return of the Jedi ), Star Wars: Pennod III - Revenge of the Sith a Star Wars: The Force Awakens.[10] Chwaraeodd y rôl yn y ffilm deledu Star Wars Holiday Special yn 1978 ac mewn ymddangosiad yn 1980 ar The Muppet Show. Cofnododd hefyd ddeialog ar gyfer pennod olaf Cyfres 3 "Star Wars: The Clone Wars" sef "Wookiee Hunt".[11][12]
Chwaraeodd Mayhew y rôl mewn hysbysebion, gwnaeth ymddangosiadau mewn ysbytai i blant sâl, ac ymddangosodd fel Chewbacca y tu allan i ffilmiau Star Wars. Cafodd Mayhew, yn ymddangos fel Chewbacca, ei anrhydeddu â Gwobr Cyflawniad Oes yng Ngwobrau Ffilm MTV 1997.[13] Yn ogystal, cafodd ei anrhydeddu pan ryddhawyd y PlayStation Portable newydd pan wisgodd fel Chewbacca a dal fyny fersiwn newydd y PSP.[14]
Gwnaeth hefyd ymddangosiadau eraill ar y cyfryngau heb chwarae Chewbacca. Ymddangosodd ar raglen NBC, Identity, lle'r oedd ei hunaniaeth yn seiliedig ar y ffaith iddo chwarae Chewbacca a roedd yn westai cyson yn nyddiau cynnar Slice of SciFi.[15]
Tra bod Mayhew wedi portreadu Chewbacca yn Star Wars: The Force Awakens, nid oedd yn Star Wars: The Last Jedi ond fe'i rhestrwyd yn y credydau fel "Chewbacca Consultant".[16] Ymddeolodd Mayhew o chwarae Chewbacca oherwydd problemau iechyd. Rhannodd Mayhew y gwaith o bortreadu Chewbaca gyda Joonas Suotamo yn Star Wars: The Force Awakens, a cymerwyd y rhan gan Suotamo mewn ffilmiau Star Wars a ddilynodd.[17][18]
Gwaith arall
[golygu | golygu cod]Y tu allan i Star Wars, ymddangosodd Mayhew yn y ffilm arswyd arswyd Terror (1978), a gyfarwyddwyd gan Norman J. Warren.[19][20] Yn fersiwn Saesneg Dragon Ball GT: A Hero's Legacy, lleisiodd y cymeriad Susha [21] Ymddangosodd hefyd yn Yesterday Was A Lie.[22]
Llyfrau
[golygu | golygu cod]Ysgrifennodd Mayhew ddau lyfr ar gyfer gynulleidfa iau: Growing Up Giant,[23] sy'n esbonio mai cryfder yw bod yn wahanol nid gwendid, a'r llyfr gwrth-fwlio i blant My Favorite Giant.[24]
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd Mayhew yn byw gyda'i wraig Mary Angelique ("Angie") yn Boyd, Texas,[25] ac roedd yn berchennog busnes. Cafodd ei dderbyn yn ddinesydd o'r Unol Daleithiau yn 2005 mewn seremoni yn Arlington, Texas.[26][27] Mewn cyfweliad gyda Fort Worth Star-Telegram dyweddodd nad oedd wedi cael medal yn y seremoni hon chwaith, cyfeiriad at olygfa Star Wars lle mae Luke Skywalker a Han Solo yn derbyn medalau ond nid Chewbacca. Nododd Mayhew mewn cyfweliad MTV, er nad yw Chewbacca yn cael medal yn y ffilm, mae ef sy'n cael y llinell olaf, pan mae'n bloeddio.[28]
Cafodd Mayhew lawdriniaeth amnewid pen-glin dwbl yn 2013.[29] Ym mis Ionawr 2015, aeth Mayhew i'r ysbyty am gyfnod byr, ger ei gartref yn Texas, oherwydd pwl o niwmonia.[30][31] Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Mayhew drwy Twitter ei fod wedi llwyddo i gael llawdriniaeth asgwrn cefn amhenodol i wella ei symudedd, a'i fod yn gwella.
Bu farw Mayhew o drawiad ar y galon ar 30 Ebrill 2019 yn ei gartref yn Boyd, Texas, yn 74 mlwydd oed.[32]
Ffilmyddiaeth
[golygu | golygu cod]Ffilm
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau | Cyf. |
---|---|---|---|---|
1977 | Sinbad and the Eye of the Tiger | Minoton | Heb gydnabyddiaeth | [5] |
Star Wars | Chewbacca | [10] | ||
1978 | Terror | The Mechanic | [20] | |
1980 | The Empire Strikes Back | Chewbacca | [10] | |
1982 | Return of the Ewok | Fideo fer | [33] | |
1983 | Return of the Jedi | [10] | ||
1987 | Star Tours | Ffilm fer, heb gydnabyddiaeth | [34] | |
2004 | Dragon Ball GT: A Hero's Legacy | Susha | Rhan llais; Dyb Saesneg |
[21] |
2004 | Comic Book: The Movie | Ei hun | [35] | |
2005 | Star Wars: Episode III – Revenge of the Sith | Chewbacca | [10] | |
2008 | Yesterday Was a Lie | Dead Man | [22] | |
2015 | Star Wars: The Force Awakens | Chewbacca | Rhannu'r rôl gyda Joonas Suotamo | [10] |
2016 | Killer Ink | Uncle Clyde | [20] | |
2017 | Star Wars: The Last Jedi | Ddim ar gael | Ymgynghorydd Chewbacca | [16] |
2018 | Solo: A Star Wars Story | [36] |
Teledu
[golygu | golygu cod]Blwyddyn | Teitl | Rhan | Nodiadau |
---|---|---|---|
1977 | Donny & Marie | Chewbacca | [37] |
1978 | Star Wars Holiday Special | Rhifyn Arbennig i deledu[38] | |
1980 | The Muppet Show | Pennod: The Stars of Star Wars[39] | |
1981 | Dark Towers | The Tall Knight | [20] |
1985 | The Kenny Everett Television Show | Amrywiol | Pennod #3.3[40] |
2011 | Star Wars: The Clone Wars | Chewbacca | Rhan llais; Pennod: Wookiee Hunt[41] |
Glee | Pennod: Extraordinary Merry Christmas[42] |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Peter Mayhew". Famous Birthdays. Cyrchwyd 2 Mai 2019.
- ↑ Quinn, Karl (12 Ebrill 2014). "Star Wars actor Peter Mayhew in Melbourne for Supernova fan convention". The Sydney Morning Herald. Cyrchwyd 12 Ebrill 2014.
- ↑ Vankin, Jonathan (20 Ionawr 2015). "'Star Wars' actor, Peter 'Chewbacca' Mayhew, 70, stricken with pneumonia – sends fans message from hospital". Inquisitr. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2015.
- ↑ "Peter Mayhew". PeterMayhew.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mai 2008. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ 5.0 5.1 Clark, Mark (2015). Star Wars FAQ: Everything Left to Know About the Trilogy That Changed the Movies. Applause Theatre & Cinema Books. ISBN 978-1-48036-018-1.
- ↑ Hutchinson, Sean (19 Mai 2015). "15 Chewbacca Facts in Honour of Peter Mayhew's Birthday". Mental Floss. Cyrchwyd 21 Rhagfyr 2015.
- ↑ Weiss, Josh (2 Mai 2019). "Peter Mayhew, original Chewbacca actor in Star Wars, passes away at 74". SYFY Wire (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Williamson, Brett (19 Tachwedd 2015). "The man who is Chewbacca shares tall tales Down Under". ABC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Sparkes, David (3 Mai 2019). "A great 'walking carpet': Chewbacca actor Peter Mayhew dies". ABC Radio (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ 10.0 10.1 10.2 10.3 10.4 10.5 Child, Ben (8 Ebrill 2014). "Original Chewbacca actor set to return in Star Wars: Episode VII". The Guardian. Cyrchwyd 22 Mai 2016.
- ↑ "Remaking Wookiee: Chewbacca Becomes a Character on 'Star Wars: The Clone Wars'". The New York Times. 17 Chwefror 2011. Cyrchwyd 31 Mai 2011.
- ↑ "The Clone Wars Episode Guide: Wookiee Hunt". StarWars.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-09-02. Cyrchwyd 1 Ebrill 2011.
- ↑ Chilton, Martin (13 Rhagfyr 2011). "Chewbacca film on Hollywood Black List". Telegraph Media Group Limited. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ "15 Candid Secrets Revealed About Peter Mayhew | Fan World". FanWorld.co. 21 Rhagfyr 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-06. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Brooks, Summer (26 Hydref 2005). "Slice of SciFi #30: Interview with Peter Mayhew (Chewbacca, "Star Wars")". Slice of SciFi. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ 16.0 16.1 "Star Wars: The Last Jedi - full credits". IMDb. Cyrchwyd 6 Ionawr 2018.
- ↑ Hawkes, Rebecca (6 Ionawr 2016). "The 'secret' Chewbacca: meet the 6'11" basketball star who shared the role with Peter Mayhew in Star Wars: The Force Awakens". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 11 Mehefin 2017.
- ↑ Orange, B. Alan (6 Ionawr 2016). "Meet The New Chewbacca Actor in Star Wars: The Force Awakens". MovieWeb. Cyrchwyd 4 Hydref 2018.
- ↑ Wood, Chris (27 Chwefror 2010). "Terror (1978)". British Horror Films. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ 20.0 20.1 20.2 20.3 Boucher, Geoff; Petski, Denise; Pedersen, Erik (2 Mai 2019). "Peter Mayhew Dies: 'Star Wars' Chewbacca Actor Was 74". Deadline (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ 21.0 21.1 Walter, Joseph (22 Gorffennaf 2018). "20 Crazy Things Only True Fans Know About Dragon Ball GT". ScreenRant (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ 22.0 22.1 Chilton, Martin (4 Mai 2011). "Ewoks, sex dolls and comedy: what happened to the Star Wars cast". The Daily Telegraph. Cyrchwyd 11 Mehefin 2017.
- ↑ Mayhew, Peter; Mayhew, Angie (19 Tachwedd 2013). My Favorite Giant. One Mans Posse Production. ISBN 978-1-62098-826-8.
- ↑ Goldman, Carrie (22 Ebrill 2011). "My Favorite Giant by Peter Mayhew (Chewbacca)". ChicagoNow. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 30 Mehefin 2017. Cyrchwyd 4 Hydref 2018. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ Malone, Megan (8 Chwefror 2012). "Chewbacca Making Dallas-Area Appearances". KXAS-TV. Cyrchwyd 4 Hydref 2018.
- ↑ "Star Wars actor who played Chewbacca to become American citizen". 12 Hydref 2005. t. 16.
- ↑ "Chewbacca actor to become an American". Today. 14 Hydref 2016. Cyrchwyd 4 Hydref 2018.
- ↑ "'Star Wars' actor, others pledge their allegiance". Fort Worth Star-Telegram. 18 Hydref 2005. t. B2.
- ↑ "Wookie knee repair: 'Star Wars' actor Peter Mayhew hopes to walk again after Fort Worth surgery". The Dallas Morning News. 11 Medi 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Ebrill 2014. Cyrchwyd 4 Hydref 2018. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Sacks, Ethan (19 Ionawr 2015). "'Star Wars' star Peter Mayhew hospitalized for pneumonia: report". New York Daily News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Ebrill 2015. Cyrchwyd 4 Hydref 2018. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Parker, Ryan (19 Ionawr 2015). "'Star Wars' actor Peter Mayhew hospitalized with pneumonia". Los Angeles Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Ebrill 2015. Cyrchwyd 4 Hydref 2018. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Zarrell, Matt; Rothman, Michael (2 Mai 2019). "'Star Wars' actor Peter Mayhew dies at the age of 74, family says". ABC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Mai 2019.
- ↑ "Return of the Ewok (1982)". Rotten Tomatoes. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-14. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Thomas, Bob (25 Mai 1987). "Star Wars celebrates 10th anniversary today". The Palm Beach Post (yn Saesneg). tt. 4E. Cyrchwyd 3 Mai 2019 – drwy Newspapers.com.
- ↑ Holmes, Adam. "Chewbacca Actor Peter Mayhew Is Dead At 74". Cinema Blend. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Chichizola, Corey (15 Mai 2018). "The Advice Star Wars' Peter Mayhew Gave Solo's Chewbacca". CinemaBlend. Cyrchwyd 15 Medi 2018.
- ↑ Saperstein, Pat; Stedman, Alex (2 Mai 2019). "Chewbacca Actor Peter Mayhew From 'Star Wars' Dies at 74". Variety (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Alter, Ethan (16 Tachwedd 2018). "'The Star Wars Holiday Special' at 40: How a landmark TV bomb was born". Yahoo Entertainment (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Murray, Noel (12 Chwefror 2015). "When the Muppets met Star Wars". The Dissolve. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-05-03. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ "Peter Mayhew dead at 74 after decades-long run playing Chewbacca in Star Wars films". ABC7 Chicago. Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Itzkoff, Dave (17 Chwefror 2011). "Remaking Wookiee: Chewbacca Becomes a Character on 'Star Wars: The Clone Wars'". ArtsBeat (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
- ↑ Zakarin, Jordan (4 Mai 2012). "'Star Wars' Day: What are the Original Cast Members Doing Now?". The Hollywood Reporter (yn Saesneg). Cyrchwyd 3 Mai 2019.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Cyfweliad gyda Peter Mayhew ar Slice of SciFi (yn dechrau am 36:55)
- Cyfweliad gyda Peter Mayhew Archifwyd 2011-09-21 yn y Peiriant Wayback ar Monster Island News