Star Wars: The Force Awakens

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Brand cyfarwydd Star Wars ac enw'r ffilm 'The Force Awakens'

Mae Star Wars: The Force Awakens (sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Star Wars: Episode VII – The Force Awakens) yn ffilm opera ofod epig Americanaidd a ryddhawyd yn 2015. Mae wedi'i chynhyrchu, ei chyd-ysgrifennu, a'i chyfarwyddo gan J. J. Abrams.

Hon yw'r gyntaf o drioleg ddilyniant Star Wars a'r seithfed rhan yng nghyfres Star Wars, yn dilyn Return of the Jedi (1983). Mae'r ffilm yn cynnwys perfformiadau gan yr actorion Harrison Ford, Mark Hamill, Carrie Fisher, Adam Driver, Daisy Ridley, John Boyega, Oscar Isaac, Lupita Nyong'o, Andy Serkis, Domhnall Gleeson, Anthony Daniels, Peter Mayhew, a Max von Sydow. Fe'i cynhyrchwyd gan Lucasfilm Ltd. a chwmni cynhyrchu Abrams Bad Robot Productions, a The Force Awakens oedd y ffilm Star Wars gyntaf na chafodd unrhyw fewnbwn gan grewr y gyfres George Lucas.

Wedi'i gosod 30 mlynedd ar ol Return of the Jedi, mae'r stori yn seiliedig ar ymdrechion Rey, Finn, a Poe Dameron i ddod o hyd i Luke Skywalker a'r frwydr rhwng y Resistance, sy'n cael ei harwain gan filwyr profiadol y Rebel Alliance, ar y naill ochr, a Kylo Ren a'r First Order, urdd sy'n olynu'r Galactic Empire, ar yr ochr arall.