Neidio i'r cynnwys

Chewbacca

Oddi ar Wicipedia
Chewbacca
Enghraifft o:Wookiee, cymeriad o Star Wars, cymeriad ffilm, cymeriad llenyddol, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad gêm fideo, cymeriad mewn comic Edit this on Wikidata
CrëwrGeorge Lucas Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolCrimson Dawn, Rebel Alliance, Resistance, Galactic Republic, New Republic, Bright Tree tribe, Endor strike team Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0fkfk edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cymeriad ffuglennol yw Chewbacca, llysenw "Chewie", yn y fasnachfraint Star Wars. Wookiee yw Chewbacca, creaduriaid (ffuglennol) tal, blewog, deudroed a deallus o'r blaned Kashyyyk. Chewbacca yw ffrind ffyddlon a chydymaith Han Solo, ac mae'n gyd-beilot iddo ar y llong ofod, y Millennium Falcon.[1] Yn ôl y stori, cyfarfu'r ddau ar ol i Chewbacca ddianc o gaethiwed yr Ymerodraeth ar blaned Minban. Yn dilyn cyfres o anturiaethau ar Vandor a Kessel, mae Chewbacca yn ymuno â'r fasnach smyglo fel cyd-beilot i Solo.

Ysbrydoliaeth George Lucas oedd y cymeriad, wedi iddo weld ei gi ei hun yn eistedd i fyny yn sedd teithiwr ei gar.[2] Dywedir bod enw Chewbacca yn deillio o собака (sobaka), y gair Rwsia am gi.[3] Yn Ffrainc, newidiwyd ei enw ym mhennod 4 (y ffilm gyntaf i'w rhyddhau) i Chiktaba[4] oherwydd bod yr enw Saesneg yn debyg i "cnoi baco" yn Ffrangeg, sef "tabac à mâcher" neu "tabac à chiquer". Cadwyd yr enw "Chewbacca" yn y penodau eraill. Yn y fersiynau Eidaleg, gelwir Chewbacca yn Chewbecca, a'i lysenw yw Ciube.[5]

Yn ffilmiau'r prif saga, portreadwyd Chewbacca gan Peter Mayhew o benodau III i VII (mae Mayhew yn rhannu'r rôl gyda'i gorff dwbl, Joonas Suotamo, ym Mhennod VII). Cymerodd Suotamo y rôl ar ei ben ei hun yn yr wythfed bennod Star Wars: The Last Jedi,[6] ac yn Solo: A Star Wars Story a Star Wars: The Rise of Skywalker. Mae'r cymeriad hefyd wedi ymddangos ar deledu, llyfrau, comics, a gemau fideo.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Chewbacca Profile, StarWars.com. Adalwyd 30 Mai 2018.
  2. George Lucas, in DVD bonus disc documentary, "Characters of Star Wars"
  3. "FilmSmarts.com - Chewbacca from Star Wars". filmsmarts.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 20 Gorffennaf 2017. Cyrchwyd 4 Mai 2019.
  4. http://cinema.jeuxactu.com/news-cinema-star-wars-quand-chewbacca-s-appelait-chiktaba-et-han-solo-yan-28943.htm
  5. Lorenzo Frati. "La Guerra delle stelle: Il doppiaggio e l'adattamento italiano di Star Wars del '77". Star Wars Athenaeum (yn Eidaleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Chwefror 2016. Cyrchwyd 21 Tachwedd 2018.
  6. "Why We Still Love Star Wars: A New Chewie". Parade (cylchgrawn). 3 Rhagfyr 2017. t. 8.