Perth, Gorllewin Awstralia
Math | dinas, dinas fawr |
---|---|
Enwyd ar ôl | Perth |
Poblogaeth | 2,141,834 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+08:00, UTC+09:00 |
Gefeilldref/i | Chengdu |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Awstralia |
Gwlad | Awstralia |
Arwynebedd | 6,418 km² |
Uwch y môr | 2 metr |
Gerllaw | Afon Swan, Cefnfor India |
Cyfesurynnau | 31.9558°S 115.8597°E |
- Erthygl am y ddinas yn Awstralia yw hon. Gweler hefyd Perth (gwahaniaethu).
Prifddinas talaith Gorllewin Awstralia yw Perth (Noongareg: Boorloo). Hi yw'r ddinas fwyaf yn y dalaith, gyda phoblogaeth o tua 1.5 miliwn. Cafodd Perth ei sefydlu ym 1829.
Daearyddiaeth
[golygu | golygu cod]Perth yw un o'r dinasoedd mwyaf arwahanedig ac arunig yn y byd - y ddinas agosaf yw Adelaide sydd yn Ne Awstralia ac sydd 2,104 kilomedr (1,307 mill) i ffwrdd. Mae'r ddinas yn agosach i Ddwyrain Timor, Singapôr a Jakarta sydd yn Indonesia nag i Sydney, Melbourne a Brisbane sydd yn yr un wlad.
Cyfathrebau
[golygu | golygu cod]Mae Awstralia yn wlad eang iawn ac felly dim ond yn y dinasoedd y gwelir priffyrdd. Mae'r ffordd Kwinana Freeway yn ymestyn o Rockingham yn ne'r ddinas i'r CBD (canol busnes dref) a Kings Park. Mae'r Mitchell Freeway yn parhau o’r ardal yma i faestrefi gogleddol y ddinas lle mae'n dod i ben yn Joondalup. Lleolir Maes Awyr Perth yn agos i faestref o’r enw Welshpool a leolir yn ne ddwyrain y ddinas. Mae yna drenau trydanol modern yn y ddinas sy'n cwrdd mewn gorsaf trenau modern tanddaearol yng nghanol y ddinas. Mae cychod yn mewnforio i'r porthladd enfawr yn Fremantle, sy'n 10 milltir o'r ddinas.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Castell Albany Bell
- Cofadail y Fforwyr
- Eglwys Wesley
- Llyfrgell J S Battye
- Stadiwm Perth
- Tŷ Le Fanu
Mae gan Perth nifer o adeiladau uchel
Enw | Uchder | Lloriau | Adeiladu | Pwrpas | |
---|---|---|---|---|---|
1 | Central Park | 249 m (817 tr) | 51 | 1992 | Swyddfeydd |
2 | BankWest Tower | 214 m (702 tr) | 50 | 1988 | Swyddfeydd |
3 | QV.1 | 163 m (535 tr) | 38 | 1991 | Swyddfeydd |
4 | Exchange Plaza | 146 m (479 tr) | 40 | 1992 | Swyddfeydd |
5 | St Martins Tower | 140 m (459 tr) | 33 | 1977 | Swyddfeydd |
6 | Woodside Plaza | 137 m (449 tr) | 28 | 2003 | Swyddfeydd |
7 | Allendale Square | 132 m (433 tr) | 31 | 1976 | Swyddfeydd |
8 | 140 St Georges Terrace ("AMP Building" gynt) | 131 m (430 tr) | 30 | 1975 | Swyddfeydd |
9 | Forrest Centre | 110 m (361 tr) | 30 | 1990 | Swyddfeydd |
9 | Governor Stirling Tower | 110 m (361 tr) | 28 | 1978 | Swyddfeydd |
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Herb Elliott (g. 1938), athletwr
- Dennis Lillee (g. 1949), chwaraewr criced
- Alexandra Hasluck, awdures
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Perth yw'r 4ydd dinas yn ôl maint yn y wlad. Poblogaeth y ddinas oedd 1,445,079 yn ôl cyfrifiad 2006. Mae cyfran uchel o'r boblogaeth yn dod o dramor. Dengys hyn yn y tabl isod.
tramor arwyddocaol | |
Gwlad Genedigaeth | Poblogaeth (2006) |
---|---|
Deyrnas Unedig | 171,024 |
Seland Newydd | 34,661 |
Maleisia | 18,993 |
De Affrica | 18,828 |
Yr Eidal | 18,814 |
India | 14,094 |
Singapôr | 11,237 |
Fietnam | 10,078 |
Iwerddon | 7,813 |
Yr Iseldiroedd | 7,715 |
Gweriniaeth Pobl Tsieina | 7,684 |
Yr Almaen | 7,684 |
Indonesia | 7,404 |
Unol Daleithiau America | 5,558 |
Philippines | 5,222 |
Dinaswedd
[golygu | golygu cod]Adelaide (De Awstralia) · Brisbane (Queensland) · Canberra (Cenedlaethol, a Tiriogaeth Prifddinas Awstralia) · Darwin (Tiriogaeth y Gogledd) · Hobart (Tasmania) · Melbourne (Victoria) · Perth (Gorllewin Awstralia) · Sydney (De Cymru Newydd)