Palflys Hatcher
Palflys Hatcher Barbilophozia hatcheri | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Scapaniaceae |
Genws: | Barbilophozia |
Rhywogaeth: | B. hatcheri |
Enw deuenwol | |
Barbilophozia hatcheri |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Palflys Hatcher (enw gwyddonol: Barbilophozia hatcheri; enw Saesneg: Hatcher's pawwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru. Mae'n eitha prin yng Nghymru a Cumbria ond yn eitha cyffredin yn yr Alban.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Y rhywogaethau tebycaf i Palflys hatcher yw'r Palflys cyffredin (B. floerkei) a Phalflys y gorllewin (B. atlantica).
Mae gan Palflys hatcher ddail 3-llabed, ac felly mae'n hawdd ei wahaniaethu oddi wrth y Lophozia. Maent yn wyrddfrown neu'n felynwyrdd. Yna aml mae'r blaguryn ifanc yn goch. Mae'r coesynnau'n 0.5–3 mm o led a'r dail yn 1–2 mm o led a rhwng 0.5 mm ac 1 mm o hyd.
Cynefin[golygu | golygu cod]
Yr ucheldir yw ei gynefin, yn enwedig mewn mwsog ar foncyn neu gangen wedi syrthio, neu ar dywarch ar lethrau sy'n wynebu'r gogledd. Weithiau fe'i ceir ar waliau sych.
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.