Palflys cyffredin
Palflys cyffredin Barbilophozia floerkei | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Scapaniaceae |
Genws: | Barbilophozia |
Rhywogaeth: | B. floerkei |
Enw deuenwol | |
Barbilophozia floerkei |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Palflys cyffredin (enw gwyddonol: Barbilophozia floerkei; enw Saesneg: common pawwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Mae’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru (ar wahân i Sir Benfro, yr Alban ac o Gaer i ogledd Lloegr.
Cynefin[golygu | golygu cod]
Mae'n hoff o dir uchel, agored. Mae ganddi ddail 3-llabed a than-ddail (underleaves), sy'n hollol wahanol i'r genws Lophozia.
Disgrifiad[golygu | golygu cod]
Gwyrddfrown neu felynwyrdd yw lliw'r dail ac maent yn 1–2 mm o led a 0.5 – 1 mm o hyd. Mae'r coesynnau'n 0.5–3 mm o led.
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.