Mwsogl

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Mwsog)
Jump to navigation Jump to search
Mwsoglau
Migwyn (Sphagnum)
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Rhaniad: Bryophyta
Dosbarthiadau[1]

Planhigion anflodeuol bychan o'r rhaniad Bryophyta yw mwsoglau. Mae tua 12,000 o rywogaethau yn y byd.[1] Fel arfer maent yn tyfu ar furff matiau neu glympiau mewn lleoedd llaith neu gysgodol. Mae mwsoglau'n blanhigion anfasgwlaidd heb feinwe sylem a ffloem i gludo dŵr. Maent yn atgenhedlu â sborau yn hytrach na hadau ond mae ganddynt ddail syml, un gell o ran trwch ar fonyn nad yw'n arbennig o dda am dynnu dŵr a maeth.

Moss Gametophytes Sporophytes.JPG

Fel rheol, maent yn 0.2–10 cm (0.1–3.9 modf.) o daldra, ond mae rhai rhywogaethau'n llawer mwy na hyn: Dawsonia, yw'r math talaf, a gall dyfu i hyd at 50 cm (20 modf.) o uchter.


Defnydd gan y werin[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Sebon Teiliwr: "Bu Mrs Heulwen Roberts o Faentwrog yn son wrthym'[2] 'am fwsogl sy’n tyfu ar lannau pyllau a alwai’n “sebon teiliwr. Cofiai deilwriaid yn ei gasglu yn ystod ei ieuenctid i smwddio i mewn i ddillad i'w startsio. Ni wyddom at ba fwsogl y cyfeiriai, os mwsogl o gwbl ond fe gafwyd, ar ôl rhywfaint o ymchwil, ei bod yn bosibl mai cen cerrig oedd y planhigyn, e.e. Ramalina calicaris."
  • Mwsoglu - yr arferiad o hel a defnyddio mwsogl gan y werin bobl.
  • Llyffethair o fwsogl: "Glywoch chi am neud rhaff o'r sidan bengoch [Polytrichum commune]? Mi ddangosodd 'newyrth i fi dros ugain mlynedd yn ôl sut i neud llyffethair ohono - peth handi iawn i allu i neud ar y mynydd. Ar ôl rhyddhau's pishys o sidan bengoch o wrth eu gilydd a'u neud yn bentwr, mi fachodd nhw a bys un llaw trwy'r llaw arall (oedd ar ffurf arwydd 'ok' dros y twmpath). Wrth eu troi a'u plethu, roedd y gorden a nawd yn cael ei dala yng nganol y llaw oedd yn troi, ar siap malwen (h.y. yn cyfyngu ar ei gallu i droi yn rhydd). I fennu, mi ddyblodd y rhaff (a thrwy hynny wrthwneud grym y troi wrth gwrs) a wedyn agor y bleth er mwyn rhoi un pen trwy blethau'r llall. Wrth feddwl, dim llyffethair sensu stricto oedd e, ond cylch - torch oedd ei enw amdano. Mi'i rhoid rownd gwddwg y ddafad er mwyn rhoi ei throed drwyddi."[3] (Carchar yw'r term am llyffethair yn Arfon)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Goffinet, Bernard; William R. Buck (2004). "Systematics of the Bryophyta (Mosses): From molecules to a revised classification". Monographs in Systematic Botany. Molecular Systematics of Bryophytes (Missouri Botanical Garden Press) 98: 205–239.
  2. Bruce Griffiths ac Ann Corkett ym Mwletin 23 (Llên Natur)[1]
  3. Gwyn Jones, Bwletin Llên Natur rhifyn 38[2]
Botanical template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am blanhigyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato