Pab Grigor I

Oddi ar Wicipedia
Pab Grigor I
Ganwydc. 540, 540 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mawrth 604 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Man preswylRhufain Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiplomydd, offeiriad Catholig, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Swyddpab, papal apocrisiarius to Constantinople Edit this on Wikidata
Adnabyddus amYmgomiau Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl12 Mawrth, 25 Mawrth, 3 Medi Edit this on Wikidata
TadGordianus Edit this on Wikidata
MamSantes Silvia Edit this on Wikidata
LlinachAnicia gens Edit this on Wikidata

Pab Rhufain o 590 hyd ei farwolaeth oedd Grigor I, a elwir hefyd yn Grigor Fawr neu Gregor(i) Fawr (c. 54012 Mawrth 604). Mae'r eglwys yn ei gyfrif yn sant a Thad Eglwysig; ei wylmabsant yw 12 Mawrth. Cafodd ei eni yn Rhufain.

Yn ôl traddodiad, gwelodd gaethweision ifainc o Eingl-Sacsoniaid mewn marchnad caethweision yn Rhufain a phenderfynodd anfon cenhadwr i Brydain i droi'r Eingl-Sacsoniaid yn Gristnogion. Y gŵr a ddewisodd oedd Awstin, a fyddai'n archesgob cyntaf Caergaint yn ddiweddarach.

Roedd Grigor yn ddyn caredig iawn a weithiai i wella cyflwr y tlodion. Yn ogystal gwnaeth lawer i ddiwygio trefn yr eglwys. Roedd hefyd yn awdur yn yr iaith Ladin a ysgrifennodd homilïau ar Eseciel a'r Efengylau, llyfr ar reolau'r eglwys (Cura Pastoralis) a'r gweithiau ar gyfer gwasnanaethau eglwysig y Sacramentarium a'r Antiphonarium.

Yr enw cyffredin ar y Pab Grigor yng Nghymru'r Oesoedd Canol oedd Geirioel. Dyma gyfeiriad ato mewn awdl gan Iolo Goch i Dafydd ap Bleddyn, Esgob Llanelwy:

Da fu heb gelu Coel Godebawg,
Da Eirioel enau, eiriau oriawg,
Ac ys gwell gâr pell, gŵr pwyllawg — balchryw,
Ni bu ei gyfryw, llyw galluawg;
Os rhaid mynegi pwy rhi yrhawg,
Dafydd ap Bleddyn yw'r dyn doniawg.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. D. R. Johnston (gol.), Gwaith Iolo Goch (Caerdydd, 1988), cerdd XVIII.12–17.
Rhagflaenydd:
Pelagiws II
Pab
3 Medi 59012 Mawrth 604
Olynydd:
Sabinianws