Paarl
Daw Paarl o'r gair Parel, sef, 'perl' yn Iseldireg [1]). Mae'n ddinas (gyda'i threflannau) â phoblogaeth o 191,013 yn nhalaith y Wes Kaaps (Gorllewin y Penrhyn / Western Cape) yn Ne Affrica.
Dyma'r drydedd dref hynaf yn Ne Affrica ar ôl Tref y Penrhyn (Kaapstad/Cape Town) a Stellenbosch, a hi yw'r dref fwyaf yn nhiroedd gwinllanau De Affrica. Mae'r dref, i bob pwrpas bellach wedi ei huno gyda threflan Mbekweni, ac mae'n uned drefol gyda Wellington. Lleolir Paarl oddeutu 60 cilometr (37 mi) i'r gogledd ddwyrain o Kaapstad ac mae'n enwog am ei harddwch naturiol a thraddodiad gwinllanol a thyfu ffrwythau.
Er mai dyma sedd Cyngor Bwrdeisdref Drakenstein, ac nid o ardal fetropolitan Kaapstad, mae'n cwympo o fewn ardal economaidd y ddinas honno. Mae Paarl yn anarferol yn Ne Affrica gan bod ei henw'n cael ei ynganunu'n wahanol yn y Saesneg a'r Afrikaans. Bydd y Afrikaans yn aml yn rhoi'r fannod cyn yr enw gan ddweud, in die Paarl neu in die Pêrel ("yn y Paarl"), yn hytrach nag in Paarl.
Hanes
[golygu | golygu cod]Brodorion cynharaf ardal Paar oedd y Khoikhoi a San. Trigai'r KhoiKhoi y Penrhyn a'r Cochoqua yn ardal dyffryn afon Berg. Roedd y Cochaqua yn magu gwartheg ac ymysg y cyfoethocaf o'r llwythi Khoi a rhwng 16-18,000 mewn nifer gan alw Mynydd Paarl yn 'Fynydd y Crwban'.[2]
Sefydlodd Vereenigde Oost-Indische Compagnie o dan arweinyddiaeth Jan van Riebeeck berthynas masnachu cig gyda'r KhoiKhoi ar hyd arfordir bae Tafelsberg (Table Mountain). Yn 1657, wrth chwilio am berthnasau masnachu newydd yn y berfeddwlad, gwelodd yr Iseldirwr, Abraham Gabemma, graig gwenithfaen anferth yn disgleirio yn yr heulwen wedi storm law a'i alw'n "de Diamondt en de Peerlberg" ("Mynydd Diamwnt a Pherl") gan roi enw i dref Paarl.[1][3] Gabemma (sillefir yn aml fel Gabbema) oedd Fiscal (trysorydd cyhoeddus) aneddiadau arfordir y Tafelberg. Gollyngwyd y "diamwnt" o'r enw, a daeth y graig i'w hadnabod yn syml fel y Graig neu Fynydd Perl.
Yn 1687, rhoddodd y Llywodraethwr Simon van der Stel yr hawl i'r ffermydd cyntaf yn yr ardal i'r 'berdeiswyr rhydd' ("free burghers"). Y flwyddyn ganlynol, cyrhaeddodd yr Hiwgonotiaid Ffrengig ar y Penrhyn a glwadychu'r ffermydd yn yr ardal.[2] Rhoddodd y tir ffrwythlon a'r hinsawdd tebyg i Fôr y Canoldir amlgychiadau rhagorol ar gyfer ffermio. Planodd y gwladychwyr perllannau, ffrwythau, llysiau a gerddi a'r gwinllanoedd enwog.[4] Gydag hynny datblygodd traddodiad hir Paarl fel canolfan frwythau a gwin De Affrica.
Arweinodd y gwladychu Ewropeaidd ar wrthdarro gyda'r Khoikhoi dros dir a dŵr ac wrth i ddull o dir cymunedol y KhoiKhoi ddod yn erbyn arfer y gwladychwyr o dir preifat. Trechwyd y Khoi mewn rhyfeloedd lleol ac fe'i difarwyd gan afiechydon y dyn gwyn. Ffodd llawer o'r boblogaeth yn bellach i fewn i'r berfeddwlad tuag at yr Afon Oren (Orange River) neu daethant yn lafurwyr taeog ar y ffermydd.[2]
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Yn ôl cyfrifiad 2001 De Affrica roedd poblogaeth Paarl yn 82,713 (yn y dref ei hun) mewn 20,138 cartref, ac ardal 32.2 metr sgcilowar (12.4 mi sgw). Roedd 67.8% o'r trigolion yn disgrifio eu hunain fel 'Lliw' (Kaapse Kleurlinge; Cape Coloureds), 21.2% fel 'gwyn', 10.5% fel 'du', a 0.5% fel Indiaidd neu De Ddwyrain Asia. Afrikaans oedd iaith gyntaf 85.5% o'r bobl, siaradai 8.5% Xhosa, a 5.2% yn siarad Saesneg.[5]
Yn 2011 y sefyllfa oedd: Poblogaeth o 112,045; 69.89% yn 'lliw'; 17.90% gwyn; 10.35% du.[6]
Afrikaans oedd prif iaith 86.81% o'r boblogaeth, a Saesneg yn 6.1%.
Atyniadau Twristaidd
[golygu | golygu cod]Mae Paarl, fel nifer o drefi yn ardal y Gwinllaannodd yn gymuned gyfoethog gyda phensaerniaeth tai fferm Iseldireg, gerddi cymen a strydoedd deiliog.
Ceir sawl atyniad unigryw yn Paarl: yn y dref hon sefydlwyd seiliau'r iaith Afrikaans fel iaith lenyddol a swyddogol gan sefydlu mudiad iaith y Genootskap van Regte Afrikaners. Lleolir y gofeb i'r iaith Afrikaans, y Taalmonument ar lethrau Mynydd Paarl lle lleolir yr amgueddfa iaith (Taalmuseum) a'r llwybr iaith Afrikaans trwy Dal Josaphat sy'n dysteb i lwyddiant y mudiad iaith.
Ceir hefyd cyn bencadlys y gymdeithas gydweithredol gwinllanoedd y KWV. Enillodd y KWV enw iddi hyn fel arbenigwyr a safon ei chynhyrchu gwin.
Dolenni
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Raper, P. E. Paarl. Dictionary of Southern African Place Names. archive.org. Cyrchwyd 28 October 2013.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 "Archived copy". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2011. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help)CS1 maint: archived copy as title (link) - ↑ The concise illustrated South African Encyclopaedia. P. Schirmer, 1980. Central News Agency, Johannesburg. First edition, about 211pp
- ↑ A General Collection of the Best and Most Interesting Voyages and Travels in All Parts of the World, Vol XVI. John Pinkerton, 1814. London: Longman, Hurst, Rees, and Orme.
- ↑ "Main Place 'Paarl'". Census 2001. Cyrchwyd 2 April 2011.
- ↑ Nodyn:Lien web