Otto Freundlich

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Otto Freundlich
Portrait d'Otto Freundlich en 1922.jpg
Ganwyd 10 Gorffennaf 1878 Edit this on Wikidata
Słupsk Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata (64 oed)
Majdanek concentration camp Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Yr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaeth cerflunydd, arlunydd Edit this on Wikidata
Arddull celfyddyd haniaethol Edit this on Wikidata
Mudiad celfyddyd haniaethol Edit this on Wikidata

Roedd Otto Freundlich (10 Gorffennaf 18789 Mawrth 1943) yn beintiwr a cherflunydd Almaenig o dras Iddewig ac un o'r genhedlaeth gyntaf o arlunwyr haniaethol.

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Otto Freundlich yn Stolp, Pomerania, Prwsia; fe astudiodd i fod yn ddeintydd cyn penderfynu troi yn artist. Fe aeth i Paris yn 1908, gan fyw ym Montmartre yn agos i Pablo Picasso, Braque ac eraill.

Yn 1914 dychwelodd i'r Almaen. Ar ôl y Y Rhyfel Byd Cyntaf, ddaeth yn amlwg fel aelod gweithgar o'r grŵp gwleidyddol/artistig Novembergruppe (Grŵp Tachwedd). Ym 1919, fe drefnodd yr arddangosfa Dada cyntaf yn Cwlen (Cologne) gyda Max Ernst a Johannes Theodor Baargeld. Yn 1925 ymunodd a'r grŵp Abstraction-Création.

Ar ôl 1925, fe wnaeth Freundlich fyw yn Ffrainc yn bennaf. Yn yr Almaen, cafodd ei waith ei gondemnio fel Entartete Kunst ('celf ddirywiedig') gan y Natsïaid a'i atal rhag ei arddangos yn gyhoeddus.

Cafodd rhai o'i weithiau eu cipio a'u cynnwys yn yr arddangosfa enwog o Entartete Kunst yn cynnwys ei gerflun Der Neue Mensch ('Y dyn newydd'); cafodd ffotograff sarhaus o'r cerflun ei ddefnyddio ar glawr catalog yr arddangosfa. Ni chafodd Der Neue Mensch byth a'i ail-ddarganfod a chredir iddo gael ei falu. Cafodd un o'i gerfluniau eraill ei harcheb mewn cloddio ym Merlin a'i arddangos yn y Neues Museum.[1][2][3]

Tra ym Mharis, fe ddaeth yn aelod o'r Union des Artistes Allemandes Libres.[4] Pan dechreuodd yr Ail Ryfel Byd, cafodd Freundlich ei garcharu gan awdurdodau Ffrainc ond wedyn ei rhyddhau am gyfnod diolch i ddylanwad Pablo Picasso. Ym 1943 cafodd ei arestio a'i gludo i Garchar Gwersyll Majdanek, Gwlad Pwyl, lle cafodd ei lofruddio'r diwrnod y cyrhaeddodd.

Ffilm Ddogfen[golygu | golygu cod y dudalen]

Er i Otto Freundlich gael i ddiystyru ers cael ei erlid gan y Natsiaidd, yn 2012 fe wnaethpwyd ffilm ddogfen Das Geht Nur Langsam (Mae'n Cymryd Amser) am ei weledigaeth o adeiladau strydoedd o gerfluniau yn rhedeg trwy Ewrop, yn symbol o'i obaith am gyfeillgarwch y byd.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Erthygl Associated Press 8 Tachwedd 2010
  2. "Buried in a Bombed-Out Cellar: Nazi Degenerate Art Rediscovered in Berlin" Der Spiegel (Awst 11, 2010)
  3. "Photo Gallery: Sensational Find in a Bombed-Out Cellar" Der Spiegel (Awst 11, 2010)
  4. Siegfried Gnichwitz, "Heinz Kiwitz: gekämpft · vertrieben · verschollen" (PDF) Stiftung Brennender Dornbusch. Folder from an exhibition in honor of the 100th anniversary of Kiwitz' birth. Liebfrauenkirche, Duisburg (Tachwedd 7 – Rhagfyr 5, 2010), p. 5. Casglwyd Chwefror 10, 2012 (Almaeneg)