O.E. Roberts

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
O.E. Roberts
Ganwyd 19 Mehefin 1908 Edit this on Wikidata
Llanystumdwy Edit this on Wikidata
Bu farw 14 Hydref 2000 Edit this on Wikidata (92 oed)
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth technegydd labordy Edit this on Wikidata

Roedd Owen Elias Roberts, neu'n fwy cyffredin mewn print, O.E. Roberts, yn awdur gwyddonol ac yn ymgyrchydd dros hawliau'r Gymraeg a thros senedd i Gymru. Bu farw ar 14 Hydref 2000 yn 92 oed[1]

Bywyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganed O.E. Roberts yn Llanystumdwy, Eifionydd ond wedi addysg elfennol symudodd i weithio fel technegydd labordy meddygol yn Lerpwl. Daeth, maes o law yn Brif Dechnegydd Labordy Ysbyty Broadgreen.[2] Yn ei lencyndod teithiau ar hyd gogledd Cymru a cyhoeddwyd erthyglau ganddo am ei brofiadau yng nghylchgrawn Y Ford Gron yn yr 1930au.[3] Wedi ymddeol dychwelodd i Gricieth i fyw ac yna i Gaerdydd i fod yn agosach at ei merch, Gwenan, sy'n briod â'r darlledwr, Wyndham Richards. Roedd yn briod â Margaret Florence (Fflorens) Roberts a gyhoeddodd lyfr Merch y Gelli gan Wasg Pantycelyn. Roedd ganddo ddau o wyrion.[4]

Anrhydeddu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1972 derbyniodd radd MA er anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei waith arloesol i wyddoniaeth yn y Gymraeg.> Derbyniodd y radd gan Syr John Meurig Thomas a'i ddisgyrfiodd fel "y gŵr diymhongar [hwn] ei ddychymyg yn gyfoethog ei ryddiaeth yn farddonol a Beiblaidd".[5]

Bu hefyd yn Lywydd Anrhydeddus y Gymdeithas Wyddonol Genedlaethol.[6]

Eisteddfod Genedlaethol[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillodd y Fedal Ryddiaith ddwywaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Enillodd yn Eisteddfod Aberystwyth, 1952 gyda Cyfrol o Ryddiaith: Cyfrinachau Natur[7]

Enillodd y Fedal Ryddiaith eto dwy flynedd wedyn yn Eisteddfod Ystradgynlais, 1954 am ei ysgrif Y Gŵr o Ystradgynlais (casgliad o ysgrifau).[8][9]

Enillodd hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng nghystadleuaeth y Llawlyfrau, gan ennill yn 1948 gyda Llawlyfr ar Fwydydd ac yn 1951 gyda Llawlfyr ar Wyddor Gwlad.

Ysgrifennu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ogystal ag ysgrifennu'r i'r Ford Gron (a ddaeth i ben fel cylchgrawrn yn 1935) bu O.E. yn cyfrannu colofn wyddonol i'r Cymro. Cyhoeddodd ei lyfr gyntaf, Hela'r Meicrob yn 1945. Bu hefyd yn cyfrannu, bob yn ail gyda Dr Eirwen Gwynn, i'r Gwyddonydd.[10] gan gynnwys erthyglau megis Bwytawr Bacteria yn Cyfrol ii, rhif 2, Mehefin 1964. [11]

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn sgil ei lwyddiant yn poblogeiddio gwyddoniaeth yn y Gymraeg, ymddangosodd ar raglenni teledu yn yr iaith yn trafod y pwnc, gan gynnwysn trafod "Hela'r Meicrob" ar ddydd Sadwrn 7 Mai 1960 ar Telewele.[12]

Gwleidyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu'n weithgar iawn gydag Undeb Cymru Fydd. Mae ei ohebiaeth i gymdeithasau Cymreig yng ngogledd a chanolbarth Lloegr yn enw UCF ar bwnc dyfodol Cymru ac, yn benodol sefydlu cyfundrefn a gwasanaeth darlledu arwahân i Gymru wedi eu cadw yn Archif Prifysgol Bangor.[13]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gweler Hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Teyrngedau[golygu | golygu cod y dudalen]

Darllen Pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

Gellir darllen hen rifynnau o Y Gwyddonydd, sy'n cynnwys erthyglau gan O.E. Roberts ar-lein ar dudlennau Cylchgronau Cymru ar wefan y Llyfrgell Genedlaethol.

Gellir hefyd ddarllen Y Ford Gron ar dudalennau Cylchgronau Cymru.[14]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]