Neidio i'r cynnwys

No More Lockdowns (plaid wleidyddol)

Oddi ar Wicipedia
No More Lockdowns
Dim Mwy O Gloi Lawr
ArweinyddGruffydd Meredith
TrysoryddJustin Lilley
SefydlwydMawrth 2016 (2016-03)
Rhestr o idiolegauCenedlaetholdeb Cymreig
Annibyniaeth i Gymru
Ewrosgeptiaeth Caled
Sofran Cymru
Gwrth cyfyngiadau COVID-19
Senedd Cymru
0 / 60
Gwefan
https://nomorelockdowns.wales/

Mae No More Lockdowns (Cymru Sovereign gynt) yn blaid wleidyddol Eurosceptig galed a genedlaetholdeb Cymreig yng Nghymru sydd wedi'i chofrestru a'i reoleiddio gan Gomisiwn Etholiadol y Deyrnas Unedig. Cafodd y blaid ei sefydlu a'i chofrestru'n ffurfiol ym mis Mawrth 2016 dan yr enw "Cymru Sovereign" ar ôl bod yn grŵp yn lobïo a deisebu Llywodraeth Cymru. Un o'r ymgyrchoedd roedd yr arweinydd, Gruffydd Meredith yn rhedeg oedd creu ail siambr yn y Senedd.[1] Ar hyn o bryd mae wedi'i gofrestru i sefyll mewn etholiadau yng Nghymru ac mae'n cydymffurfio â Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000.[2]

Mae'r blaid yn credu y dylai Cymru fod yn wladwriaeth hollol sofran yn y byd, y tu hwnt i reolaeth Senedd y Deyrnas Unedig yn San Steffan yn Llundain a'r Undeb Ewropeaidd. Mae hefyd yn cefnogi creu system punt ac arian sofran Cymraeg didyled i Gymru gyda'i banc ei hun.[3] Safodd y blaid yng Ngorllewin Casnewydd yn etholiadau Cynulliad Cymru 2016, lle daeth yn olaf gyda 38 pleidlais.[4]

Mewn darn barn yn Y Cymro ar 10 Mai 2019 dywedodd arweinydd y blaid, Gruffydd Meredith, ei fod eisiau gweld Cymru yn ffynni fel gwlad annibynnol drwy greu arian ei hunan sydd yn rhydd o ddyled. Mae Meredith eisiau creu system economaidd gymysg gan dorri rhydd o 'gaethwasaidd bresennol' yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig.[5]

Ymunodd y blaid mewn trafodaeth ar ôl Gorymdaith Annibyniaeth AUOB Caernarfon ar Orffennaf 2019. Roedd y fforwm rhwng pleidiau sy'n cefnogi Annibyniaeth; Plaid Cymru, Gwlad a Chymru Sovereign wedi ei chadeirio gan Dr. Carl Clowes.[6] Cafodd hyn ei beirniadu gan grwp gwrth asgell dde eithafol (Far Right Watch Wales) er nad yw'r blaid yn un asgell dde eithafol.

Cafodd y blaid ei ail-frandio ym mis Mawrth 2021 dan y faner "Dim Mwy O Gloi Lawr i Gymru" er mwyn gwrthwynebu "cyfyngiadau clo" COVID-19 oedd mewn lle ar y pryd.[7] Sefodd y blaid yn 2 rhanbarth ac un etholaeth yn etholiad Senedd Cymru, 2021. Yn yr etholiad yma cafodd y blaid gyfanswm o 2,967 o bleidleisiau.[8]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Bodden, Tom (22 Gorffennaf 2013). "The House of Llords: Call for second chamber in National Assembly". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 17 Ebrill 2021.
  2. Gweld Cofrestriad - Cymru Sovereign - Comisiwn Etholiadol
  3. "Plaid newydd yn galw am "annibyniaeth lwyr" i Gymru". Golwg360. 4 Mai 2016. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2020.
  4. "Newport West - Welsh Assembly constituency - Election 2016". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-07-10.
  5. Meredith, Gruffydd (10 Mai 2019). "Gall, mi all Gymru ffynnu yn hyderus ac annibynnol wrth greu ei harian ei hun". Y Cymro. Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2020.
  6. Gwyn Jôb, Aled (24 Gorffennaf 2019). "Saturday's march is an opportunity to set a political route map for independence". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 10 Gorffennaf 2020.
  7. "View registration - The Electoral Commission". search.electoralcommission.org.uk. Cyrchwyd 17 Ebrill 2021.
  8. Mosalski, Ruth (7 Mai 2021). "Senedd election 2021 result in the South Wales East region". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Gorffennaf 2021.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]