Ned Kelly

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Ned Kelly ym 1880

Edward "Ned" Kelly (Mehefin 1855 - 11 Tachwedd, 1880) yw un o Wylliaid Llwyni [1] (Bushranger) enwocaf Awstralia, a daeth yn arwr llên gwerin ei wlad.[2]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Ned Kelly yn Beveridge, tref fechan i'r gogledd i ddinas Melbourne ym Mehefin 1855; dydy union ddyddiad ei eni ddim yn wybyddus gan na chofrestrwyd ei enedigaeth. Roedd yn fab i deulu o Gatholigion Gwyddelig, John "Red" Kelly ac Ellen Quinn. Roedd Red yn droseddwr a alltudiwyd i Awstralia ym 1842 am ddwyn dau fochyn; roedd Ellen yn ferch i ffermwr a ymfudodd i Awstralia ym 1841[3]. Bu Red yn gweithio fel gwas ar ffarm i James Quinn, tad Ellen.

Sash sidan Ned Kelly

Pan oedd Ned tua naw mlwydd oed, symudodd y teulu i bentref Avanel, Talaith Victoria lle bu Red Kelly'n ceisio cadw fferm ei hun, heb fawr o lwyddiant; cafodd ei garcharu am ddwyn gwartheg a'i ddirwyo £25. Bu farw Red ar 27 Rhagfyr 1866 a'i gladdu yn Avenel. Tra'n byw yn Avanel achubodd Ned Kelly fachgen ifanc o'r enw Richard Shelton rhag boddi yn yr afon; fel diolch am ei wrhydri cyflwynwyd sash o sidan gwyrdd iddo gan deulu Shelton. Pan arestiwyd Kelly ar ddiwedd ei yrfa droseddol roedd yn gwisgo'r sash o dan ei arfwisg ac mae'r sash gwaedlyd i'w weld bellach yn Amgueddfa Benalla.

Wedi marwolaeth Red Symudodd Ellen Kelly y teulu i bentref Greta ger Wangaratta, Talaith Victoria. Roedd aelodau eraill o deulu Ellen yn byw yn yr ardal eisioes ac roedd ei chwiorydd, Catherine a Jane, a'u deg o blant, yn cadw fferm yno tra bod eu gwŷr, John a Thomas Lloyd, yn y carchar am ddwyn gwartheg. Treuliodd rhai o aelodau'r teulu Quinn gyfnodau yn y carchar am ddwyn gwartheg hefyd a chyhuddwyd James, brawd Ellen, o ddwyn gwartheg ar ddeng achlysur.

Ym 1868, daeth brawd Red Kelly, James Kelly, i ymweld ag Ellen. Roedd wedi meddwi ac ar ôl ffrae gyda'r chwiorydd, ceisiodd losgi eu tŷ i lawr; dedfrydwyd ef i'r gosb eithaf am y drosedd, ond cafodd y ddedfryd ei lleihau i 15 mlynedd yn y carchar yn ddiweddarach.

Roedd yr heddlu'n credu bod y teulu cyfan yn ddihirod a throseddwyr.

Wedi symud i Greta dechreuodd Ned Kelly weithio fel labrwr amaethyddol yn torri coed, trin ceffylau, heusor gwartheg a gosod ffensys.

Gyrfa droseddol gynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 14-mlwydd oed, ar 14 Hydref 1869 cafodd Ned ei arestio am ddwyn arian oddi wrth ddyn Tsieineaidd a threuliodd ddeng niwrnod yng nghelloedd gorsaf yr heddlu cyn cael ei ollwng heb ei gyhuddo gan nad oedd digon o dystiolaeth i'w anfon o flaen y llys.

Ned Kelly wedi'r gornest bocsio efo Wild wright

Bu Ned yn cydweithio fel labrwr gyda gŵr o'r enw Harry Power. Roedd Power wedi dianc o garchar Melbourn ac wedi dechrau gweithredu fel un o wylliad y llwyni. Ym 1870 cafodd Ned ei arestio am gynorthwyo Power i ladrata. Cadwyd ef yn y ddalfa am 7 wythnos. Ychydig wedi ei ryddhau o'r carchar bu Ned mewn trafferth eto: bu ef a'i ewythr, Jack Lloyd, yn ymladd gyda phedler. Wedi'r ffrae danfonasant lythyr anghwrtais a cheilliau llo trwy'r post i wraig y pedler ac ym mis Hydref 1870 fe'i dedfrydwyd i 5 mis o garchar am ymosod ac am fod yn ddigywilydd â menyw.

Tair wythnos ar ôl ei ryddhau o'r carchar ym mis Ebrill 1871, cafodd Ned ei arestio eto. Roedd wedi marchogaeth ceffyl ffrind i mewn i Greta. Nid oedd yn gwybod fod ei gyfaill, Eseia "Wild Wright", wedi dwyn y ceffyl o swyddfa bost Mansfield. Aeth i gwffio efo'r heddwas, y Cwnstabl Hall, wrth iddo geisio ei arestio, ceisiodd yr heddwas saethu'r bachgen 16 oed tair gwaith, ond methodd ei ddryll a thanio felly fe darodd carn y gwn dros ben yr hogyn; cafodd ei garcharu am gyfnod o dair blynedd gan treulio tri mis yng Ngharchar Pentridge, Melbourn a gweddill ei gyfnod dan glo ar long carchar, Y Sacremento, yn Williamstown. Cafodd ei ryddhau ar 2 Chwefror 1874.

Y siop sgidau lle fu Kelly'n cuddio rhag yr heddlu

Yn Awst ar ôl ei ryddhau o'r carchar cyfarfu Kelly â'i gyfaill "Wild Wright" yn Beechworth, gan ei fod yn ddig wrth Wright oherwydd y ceffyl wedi'i ddwyn a oedd wedi ei roi yn y carchar. Heriodd Wright i ymladd gornest focsio migwrn moel a barodd am 20 rownd. Dywedodd Wright yn ddiweddarach "... rhoddodd cosfa fy mywyd i mi".

Ym Medi 1877 cafodd Kelly ei arestio eto yn Benalla, am fod yn feddw, marchogaeth ar lwybr troed a gwrthsefyll cael ei arestio. Dihangodd o ddwylo'r heddlu ar y daith i'r llys. Ar ôl ymladd gyda'r heddlu bu iddo redeg ar draws y ffordd i mewn i siop sgidiau a chloi'r drws, heb ildio nes aeth y barnwr i'r siop. Un o'r plismyn fu'n rhan o'r ymgais i gael Kelly o'r siop oedd Thomas Lonigan; cafodd Lonigan ei saethu'n farw yn ddiweddarach gan Kelly yn Stringybark Creek.

Helynt y Cwnstabl Fitzpatrick[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd y Cwnstabl Fitzpatrick yn gyfrifol am orsaf heddlu bychan ym mhentref Greta. Oherwydd hanes hir y teulu Kelly o weithgarwch troseddol, bu i Uwch arolygydd yr Heddlu, C. H. Nicholson, orchymyn nad oedd yr un heddwas i fynd yn agos i dŷ'r teulu Kelly ar ei ben ei hun. Penderfynodd Fitzpatrick anwybyddu'r gorchymyn. Wedi bod yn yfed brandi mewn gwesty lleol, penderfynodd yn ei ddiod, y byddai'n rhoi stop ar gamwedd y teulu o ddihirod am byth. Yn Ebrill 1878 aeth i'r tŷ i arestio brawd Ned, Dan Kelly, am ddwyn ceffylau. Gwrthododd Dan Kelly fynd yn ôl i orsaf yr heddlu gyda Fitzpatrick, gan nad oedd gan y plismon warant. Ceisiodd Fitzpatrick wedyn annog Kate, chwaer 15 oed Ned, i eistedd ar ei ben-glin er mwyn iddo ei chusanu; gwylltiwyd aelodau'r teulu gan ymddygiad trahaus yr heddwas a throdd i ymladd gan beri niwed i arddwrn Fitzpatrick. Cytunodd Ellen, mam Kate, i anghofio'r digwyddiad ac i beidio cwyno am ymddygiad Cwnstabl Fitzpatrick i'w benaethiaid. Ond pan aeth Fitzpatrick yn ôl i orsaf yr heddlu yn Benalla dywedodd bod Ned wedi saethu ato dair gwaith a bod Ellen Kelly wedi ei daro ar ei ben gyda rhaw.[4] Collodd Fitzpatrick ei swydd gyda'r heddlu ym 1881 pan gydnabuwyd ei fod yn "gelwyddgi".

Aeth grŵp o heddlu o dan arweiniad y Rhingyll Steele yn ôl i Greta, gan arestio Ellen Kelly (gyda'i babi Alice King), ei mab-yng-nghyfraith William Skillion, a chymydog, William "Bricky" Williamson, am geisio llofruddio Gwnstabl Fitzpatrick. Nid oedd Ned na Dan Kelly yn y tŷ a methwyd eu harestio. Dywedodd Ellen Kelly nad oedd Ned yn rhan o'r ffrwgwd a'i fod yn gweithio 400 milltir (644 km) i ffwrdd. Ar ôl achos llys yn Beechworth, cafodd Ellen Kelly ei ddedfrydu gan y Barnwr Redmond Barri i dair blynedd yn y carchar am geisio lladd Gwnstabl Fitzpatrick a dedfrydwyd Skillion a Williamson i chwe blynedd yn y carchar. Bu i'r heddlu cynnig gwobr o £100 am ddal y brodyr Kelly.

Ym 1881 rhyddhawyd Williamson o'r carchar gyda phardwn llawn gan fod y llywodraeth yn gwybod ei fod yn ddieuog.

Ffurfio Gang Kelly[golygu | golygu cod y dudalen]

Gan fod gwarrant am geisio llofruddio heddwas a gwobr o £100 yr un wedi ei gynnig am wybodaeth a fyddai'n arwain at eu dal aeth Ned a Dan Kelly i guddio yn y llwyni (neu'r 'bwsh'), ac aeth dau o droseddwyr eraill, Joe Byrne a Steven Hart, i ymuno â nhw. Am y tair blynedd nesaf bu'r criw yn herio cyfraith a threfn gan gael eu hadnabod fel 'Gang Kelly'.

Stringybark Creek[golygu | golygu cod y dudalen]

Cofeb yn Mansfield, Talaith Victoria i'r Heddweision a laddwyd gan Kelly.

Ar 25 Hydref 1878 aeth dau grŵp o heddweision ati i geisio dal y brodyr Kelly. Roeddent yn gwybod bod y ddau frawd yn cuddio yn Ystodau Wombat, amrediad mynyddig rhwng Greta a Mansfield. Dechreuodd un grŵp o'r de o Greta o dan arweiniad yr Uwch Gwnstabl Strahan. Dywedodd Strahan y "byddai'n saethu'r Kellys i lawr fel cŵn". Aeth yr ail grŵp, o dan arweiniad y Rhingyll Michael Kennedy, gan gychwyn o Mansfield o gyfeiriad y gogledd. Sefydlodd grŵp Kennedy wersyll yn Stringybark Creek mewn ardal coedwig drwchus; roedd y grŵp yn cynnwys Kennedy a thri heddwas arall: y Cwnstabliaid Thomas McIntyre, Thomas Lonigan, a Michael Scanlon.

Cofeb i'r heddlu yn Stringybark Creek

Aeth Kennedy a Scanlon i chwilio am y brodyr Kelly, tra bu Lonigan a McIntyre yn aros yn y gwersyll. Roedd y brodyr yn byw mewn cwt gerllaw yn Bullock Creek ac wedi clywed sŵn daethant o hyd i wersyll yr heddlu. Fe benderfynon nhw geisio dal y plismyn a dwyn eu gynnau a'u ceffylau; aeth Ned a Dan i'r gwersyll gan fynnu bod y ddau heddwas yn ildio. Rhoddodd y Cwnstabl McIntyre ei freichiau i fyny, ond aeth Lonigan am ei wn. Saethwyd ef gan Ned Kelly gydag ergyd farwol. Pan ddychwelodd y ddau heddwas arall i'r gwersyll, awgrymodd McIntyre eu bod hwy hefyd yn ildio ond aeth Scanlon am ei wn ac fe saethwyd yntau'n gelain.

Rhedodd Kennedy o'r gwersyll gan saethu o goeden i goeden gyda Ned Kelly yn rhedeg ar ei ôl. Llwyddodd Kelly i lorio Kennedy gyda dau ergyd o'i wn, tra ei fod wedi ei anafu ar y llawr saethwyd ef eto gydag ergyd farwol i'w frest.

Dihangodd McIntyre yn ystod y dryswch ac aeth yn ôl i Mansfield i adrodd yr hanes.

Ar 30 Hydref 1878 pasiwyd deddf gan Senedd Talaith Victoria yn gwneud aelodau gang Kelly yn wtla (outlaw), golygai hyn nad oedd ganddynt unrhyw hawliau cyfreithiol a byddai'r hawl gan unrhyw un i'w lladd. Roedd y ddeddf hefyd yn rhoi cosb o hyd at 15 mlynedd yn y carchar gyda llafur caled i unrhyw un a oedd yn cynnig cymorth i aelodau'r gang neu'n rhoi ffug wybodaeth amdanynt i'r awdurdodau.[5] Codwyd y wobr am eu dal, yn fyw neu'n farw, o £100 i £500.

Euroa[golygu | golygu cod y dudalen]

Ar 10 Rhagfyr 1878 aeth y gang i fferm ger gorsaf Faithful Creek gan ddal 22 o bobl yno yn wystlon; wedi torri gwifrau telegraff yr orsaf i rwystro danfon negeseuon yn cyhoeddi bod y gang yn yr ardal, aethent i'r National Bank of Australia yn Euroa a chael mynediad drwy ffugio bod ganddynt neges gan Robert McCauley y ffermwr yn Faithful Creek. Cawsant werth tua £2,000 arian ac aur o'r lladrad, er iddynt obeithio am ragor. Gorfodwyd Robert Scott, rheolwr y banc, ei wraig a'i staff i ddychwelyd gyda nhw yn ôl i Faithful Creek, lle cawsant eu cloi gyda'r gwystlon eraill.[6]

Jerilderie[golygu | golygu cod y dudalen]

Hen Swyddfa Post a Thelegraff Jerilderie

Wedi'r lladrad yn Euroa cynyddwyd y wobr am ddal aelodau o Gang Kelly, rhoddwyd cyfeillion a chydnabod aelodau'r gang yn y carchar er mwyn torri ymaith unrhyw cymorth iddynt a chynyddwyd diogelwch a phresenoldeb yr heddlu mewn banciau yn Nhalaith Victoria, gan hynny croesodd y gang y ffin i dalaith De Cymru Newydd.

Cyrhaeddodd y gang tref Jerilderie, DCN ar ddydd Sadwrn 8 Chwefror 1879. Torasant i mewn i'r orsaf heddlu leol gan gloi'r ddau heddwas: Richards a Devine, yn y celloedd a dwyn eu gwisgoedd. Wrth i'r trigolion lleol weld criw o heddlu diarth yn y dre dywedasant eu bod wedi eu drafftio yno i warchod y banc gan fod sïon bod Gang Kelly ar eu ffordd yno, bu Ned Kelly mor hy ag i fynd a'i geffyl i'r efail i gael pedolau newydd a dweud wrth y go i anfon y bil at heddlu De Cymru Newydd.

Reward.jpg

Ar y dydd Llun herwgipiodd y gang nifer o bobl a'u gorfodi i mewn i'r ystafell gefn y Royal Mail Hotel. Tra fo Dan Kelly a Steve Hart yn cadw'r gwystlon yn brysur gyda "diodydd ar y tŷ" (diodydd rhad ac am ddim), aeth Ned Kelly a Joe Byrne i swyddfa'r telegraff i dorri'r gwifrau ac oddi yno i'r banc lleol lle dygwyd tua £2,414 a llosgi holl weithredoedd morgais pobl y dref oedd yn cael eu cadw yn y banc.

Yn dilyn y lladrad cynyddwyd y wobr am ddal aelodau'r gang i £2,000 y pen.[7]

Glenrowan[golygu | golygu cod y dudalen]

Arfwisg Gang Kelly yn Llyfrgell Talaith Victoria, mae hwn yn gyfansawdd o ddarnau arfwisgoedd gwahanol aelodau'r gang

Cafodd y gang wybod bod, Aaron Sherritt, ffrind gorau Joe Byrne, wedi bod yn gweithio fel ysbïwr heddlu. Ar 26 Mehefin 1880 aeth Dan Kelly a Joe Byrne i dŷ Sherritt yn Nyffryn Woolshed ger Beechworth a'i ladd. Roedd pedwar plismon yn y tŷ i fod i warchod Sherritt ond pan ddaeth y troseddwyr i'w lladd cuddiodd yr heddweision o dan wlâu, ac yn lle rhoi gwybod i'w penaethiaid am y llofruddiaeth ar unwaith arhosant tan y diwrnod canlynol cyn gwneud hynny.

Roedd y gang yn gwybod y byddai'r heddlu yn anfon dynion ychwanegol i Beechworth ar y trên i geisio eu dal. Cyrhaeddodd Ned Kelly a Hart Glenrowan ar 27 Mehefin, a chymerasant 70 o wystlon yng Ngwesty'r Glenrowan Inn. Gan wybod bod trên gyda llwyth o heddlu ar ei ffordd gorfodwyd gweithwyr y rheilffordd i dynnu rhai o draciau rheilffordd i greu damwain i'r trên, ond aeth y cynllun ar chwâl. Llwyddodd un o'r gwystlon, athro ysgol leol o'r enw Thomas Curnow, i berswadio Ned i'w ryddhau ef a'i deulu ac wedi ei ryddhau aeth i lawr i'r rheilffordd i rybuddio gyrrwr y trên am y perygl trwy chwifio llusern wedi'i lapio yn ei sgarff goch. Llwyddodd y trên i stopio’n ddiogel.

Cerddodd 46 heddwas arfog o'r trên gan amgylchu'r gwesty roedd y gang yn ei feddiannu gan ei gadw dan warchae dros nos. Er mwyn amddiffyn eu hunain rhag bwledi'r heddlu gwisgai'r gwylliaid arfwisgoedd metel tua chwarter modfedd o drwch wedi eu gwneud allan o erydr. Bu'r heddlu'n saethu eu gynnau at yr adeilad am tua saith awr ac amcangyfrifir bod 15,000 o fwledi wedi eu tanio yn ystod y saethu. Er mwyn gorfodi'r troseddwyr allan o'r gwesty gosododd yr heddlu'r adeilad ar dân.

Ar doriad gwawr ddydd Llun 28 Mehefin daeth Ned Kelly allan o'r dafarn yn gwisgo'i arfwisg. Roedd yn gorymdeithio tuag at yr heddlu gan danio ei wn arnynt. Roedd y rhan fwyaf o fwledi'r heddlu yn bownsio oddi ar ei arfwisg ond fe lwyddodd y Rhingyll Steele i'w saethu yn ei goesau nad oeddynt yn cael eu hamddiffyn gan yr arfwisg Lloriwyd Ned a chafodd ei arestio.

Bu farw Joe Byrne yn ystafell ffrynt y gwesty wrth yfed gwydraid o wisgi, roedd bwled wedi saethu i fynnu trwy waelod ei arfwisg wrth ei fod yn eistedd gan ei daro yng ngwythïen y forddwyd. Efallai bod Dan Kelly a Steve Hart wedi lladd eu hunain i osgoi cael eu dal, cafwyd hyd i'w cyrff yn gorwedd ochr yn ochr mewn ystafell gyda'u pennau ar flancedi ac wedi diosg eu harfwisgoedd. Cafodd nifer o'r gwystlon eu hanafu a bu farw tri ohonynt gan gynnwys Jack Jones, mab 13 mlwydd oed perchennog y gwesty.

Dienyddiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Hebryngwyd Ned Kelly i Garchar Melbourne lle cafodd ei drin am ei glwyfau. Ym mis Awst danfonwyd ef yn ôl i Beechworth ar y trên ar gyfer ei wrandawiad llys cyntaf. Fe'i rhoddwyd ar brawf am lofruddio'r heddweision Thomas Lonigan a Michael Scanlon yn Stringybark Creek. Roedd y llywodraeth yn ofni na fyddai rheithgor yn Beechwood yn cael Kelly'n euog gan eu bod yn beio gorymateb yr heddlu yn ystod y gwarchae ac am ladd pobl leol, cafodd yr achos ei drosglwyddo i Melbourn lle cafwyd Kelly'n euog ac fe'i dedfrydwyd i'r gosb eithaf.

Roedd nifer o bobl yn anghytuno â'r ddedfryd o farwolaeth a chodwyd deiseb gyda mwy na 60,000 o enwau arni yn gofyn i'r llywodraeth ddangos trugaredd, gwrthod bu ymateb y Llywodraeth.

Cafodd Ned Kelly ei grogi ar 11 Tachwedd 1880 yng Ngharchar Melbourne[8] a'i gladdu mewn bedd anhysbys ar dir y carchar.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "YMLADDFA GYDA GWYLLIAID LLWYNI AWSTRALIA - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1880-09-18. http://hdl.handle.net/10107/4285851. Adalwyd 2016-02-02.
  2. Ned Kelly yn The Oxford Companion to Australian History; golgwyd gan Graeme Davison, John Hirst, a Stuart Macintyre eISBN 9780191735165 [1] (Mynediad Llyfrgelloedd Cyhoeddus); adalwyd 3 Chwef 2016
  3. The Australasian Sketcher with Pen and Pencil (Melbourne, Vic. : 1873 - 1889) 5 Tachwedd 1881 [2]; adalwyd 2 Chwefror 2016
  4. "INTERVIEW WITH NED KELLY.". The Mercury (Hobart, Tas. : 1860 - 1954) (Hobart, Tas.: National Library of Australia): p. 2 Supplement: The Mercury Supplement. 14 August 1880. http://nla.gov.au/nla.news-article8986711. Adalwyd 3 February 2016.
  5. Fellons Apprehension Act 1878 [3] adalwyd 3 Chwefror 2016
  6. Ned Kelly Touring Route Euroa [4] adalwyd 3 Chwefror 2016
  7. "DARING ATTACK ON A BANK - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1879-02-14. http://hdl.handle.net/10107/3059374. Adalwyd 2016-02-03.
  8. Launceston Examiner Friday 12 November 1880 Execution of Ned Kelly [5] adalwyd 3 Chwefror 2016