Nathan o Gaza

Oddi ar Wicipedia
Nathan o Gaza
Ganwyd1644 Edit this on Wikidata
Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Bu farw12 Ionawr 1680 Edit this on Wikidata
Sofia Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, rabi Edit this on Wikidata

Diwinydd a llenor Iddewig oedd Nathan Benjamin ben Elisha ha-Levi Ghazzati neu Nathan o Gaza (16431680) (Hebraeg: נתן העזתי) oedd yn un o broffwydi Sabbatai Zevi.

Ganwyd yn Jeriwsalem yn fab i Iddew Ashcenasi o'r Almaen. Astudiodd y Talmwd a'r Cabala yn Jeriwsalem dan Jacob Hagiz, ac yna symudodd i Gaza, tarddiad ei enw "Ghazzati." Pan ymwelodd Sabbatai Zevi â Gaza wrth iddo ddychwelyd o Gairo, daeth yn gyfeillgar â Nathan. Datganodd disgyblion Sabbatai i Nathan ganfod testun hynafol oedd yn profi taw Sabbatai oedd y Meseia, a honodd Nathan taw ef oedd atgyfodiad Elijah. Yng ngwanwyn 1665, proffwydodd Nathan y bydd y Meseia yn ymddangos y flwyddyn nesaf, yn caethiwo'r swltan, ac yn sefydlu grym Israel dros holl genhedloedd y byd. Bydd Sabbatai yn gorchfygu gwledydd eraill y byd, gan roi Ymerodraeth yr Otomaniaid yng ngofal Nathan.[1]

Gan yr oedd rabïaid Jeriwsalem yn wrthwynebus i Sabbatai a'i ddilynwyr, datganodd Nathan taw Gaza oedd dinas sanctaidd y grefydd Iddewig. Taenodd enw'r Meseia trwy ddanfon cylchlythyrau o Balesteina i gymunedau yn Ewrop, ac ymwelodd â phrif ddinasoedd Ewrop, Affrica, ac India. Cefnogodd Nathan Sabbatai Ẓebi hyd yn oed ar ôl i Sabbatai troi'n Fwslim, ond paratodd Nathan i adael Palesteina am Smyrna rhag ofn iddo gael ei garcharu neu ei ladd. Ysgymunwyd holl ddilynwyr Sabbatai gan y rabïaid, Nathan yn benodol ar 9 Rhagfyr 1666, a rhybuddiwyd i bobl beidio â siarad iddo. Aeth Nathan i Smyrna am ychydig o fisoedd cyn teithio i Adrianople ar ddiwedd mis Ebrill 1667 a pharhaodd i gyhoeddi ei gredoau, gan annog Sabbataieaid Adrianople i ddiddymu ymprydau'r 17eg o Tammuz a'r 9fed o Ab.[1]

Teithiau yn Ewrop[golygu | golygu cod]

Cafodd ei ysgymuno am eildro, o Adrianople, ac aeth ag ychydig o'i ddilynwyr i Salonica, ac ymlaen i Chios a Corfu. Cyrhaeddodd Fenis ym mis Mawrth 1668, a chafodd ei orfodi gan rabiniaeth a chyngor y ddinas i ysgrifennu cyfaddefiad taw ei ddychymyg oedd ei broffwydoliaethau. Anogodd Iddewon Fenis i Nathan deithio i Livorno, lle'r oedd Iddewon y ddinas honno yn elyniaethus iddo. Dihangodd Nathan i Rufain, ond er iddo wisgo cuddwisg cafodd ei adnabod a'i alltudio. Aeth i Livorno'n wirfoddol, a llwyddodd i ennill ychydig o ddilynwyr yno. Dychwelodd i Adrianople, a theithiodd am weddill ei oes. Bu farw yn Sofia ym 1680.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]