Edirne
Gwedd
(Ailgyfeiriwyd o Adrianople)
| Math | dinas, dinas fawr, bwrdeistref, tref |
|---|---|
| Cysylltir gyda | E80 |
| Poblogaeth | 180,327 |
| Sefydlwyd | |
| Cylchfa amser | EET, TRT, UTC+03:00 |
| Gefeilldref/i | Yambol, Haskovo, Prizren, Alexandroupolis, Kars |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Edirne |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 42 ±1 metr |
| Cyfesurynnau | 41.67304°N 26.57361°E |
| Cod post | 22 000 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Edirne |
![]() | |
Dinas yn Thrace, yng ngorllewin Twrci yw Edirne. Saif yn agos i'r ffin rhwng Twrci a Gwlad Groeg a Bwlgaria ar gyfandir Ewrop. Edirne yw prifddinas Talaith Edirne. Roedd y boblogaeth yn 2002 yn 128,400.
Hanes
[golygu | golygu cod]Hen enw'r ddinas oedd Adrianople neu Hadrianopolis, ar ôl yr ymerawdwr Rhufeinig Hadrian; defnyddir yr enw o hyd gan y Groegiaid. Saif y ddinas mewn lleoliad strategol pwysig, ar ffordd Rufeinig y Via Egnatia, a bu nifer o frwydrau yma. Ym Mrwydr Adrianople yn 313, gorchfygwyd Maximinus Daia gan Licinius; yna ym mrwydr 324, gorchfygwyd Licinius gan Cystennin Fawr. Yr enwocaf o'r brwydrau yma oedd Brwydr Adrianople (378), pan orchfygwyd yr ymerawdwr Valens gan y Gothiaid.
Adeiladau
[golygu | golygu cod]- Mosg Selimiye, a godwyd yn yr 16g yn ôl cynllun gan y pensaer Sinan
