Sinan
| Sinan | |
|---|---|
![]() | |
| Ganwyd | c. 1490 Ağırnas |
| Bu farw | 17 Gorffennaf 1588 Istanbul |
| Dinasyddiaeth | yr Ymerodraeth Otomanaidd |
| Galwedigaeth | pensaer, peiriannydd sifil, gwyddonydd, cynlluniwr trefol, ysgrifennwr |
| Swydd | mimarbaşı |
| Adnabyddus am | Ferhat Pasha Mosque, Banya Bashi Mosque, Şehzade Mosque, Süleymaniye Mosque, Selimiye Mosque, Mehmed Paša Sokolović Bridge, Stari Most |
| Priod | Фатьма-Нур |
| llofnod | |
Koca Mi‘mār Sinān Āġā, (Tyrceg Ottoman: قوجو معمار سنان آغا) Mimar Sinan) (15 Ebrill 1489 - 9 Ebrill 1588) oedd prif bensaer Ymerodraeth yr Otomaniaid dros gyfnod o 50 mlynedd. Gwasanaethodd dan dri Swltan: Suleiman I, Selim II a Murad III. Bu'n gyfrifol am adeiladu dros 300 o adeiladau o faint sylweddol.
Ganwyd ef i deulu Cristnogol yn Ağırnas (Mimarsinanköy heddiw), ger Kayseri yn Anatolia. Yn 1512, daeth dan orfodaeth filwrol, ac ymunodd â chorfflu'r janisariaid, lle gorfodwyd ef i droi at Islam. Hyfforddwyd ef fel pensaer yn y cyfnod yma.
Ystyrir mai ei gampwaith yw Mosg Selimiye yn Edirne. Yr enwocaf o'i weithiau yw Mosg Suleiman yn Istanbul. Bu'n gyfrifol am hyfforddi nifer o benseiri amlwg eraill, yn cynnwys Sedefhar Mehmet Ağa, pensaer Mosg Swltan Ahmed yn Istanbul.
