Mudiad annibyniaeth Hawai'i
Enghraifft o'r canlynol | separatism |
---|---|
Gwefan | http://www.freehawaii.org/ |
Mae'r term mudiad annibyniaeth Hawai'i a'r term mudiad sofraniaeth Hawai'i (Saesneg: Hawaiian sovereignty movement, Hawäieg: ke ea Hawai'i) yn cyfeirio at amrywiol fudiadau sy'n arddel ymreolaeth wleidyddol a chymdeithasol ar gyfer ynysoedd Hawai'i, sy'n ymdrechu am annibyniaeth lwyr ar ffurf gwladwriaeth, ymwahaniad fel Gwladwriaeth Gysylltiedig, neu fwy o ymreolaeth oddi mewn i Unol Daleithiau America. Maent yn nodi bod y genedl wedi ei meddiannu'n anghyfreithlon gan Unol Daleithiau America ar ddiwedd 19go safbwynt cyfraith ryngwladol.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ym 1893, gyda chwymp y frenhines olaf, Liliʻuokalani, gyda chefnogaeth yr Unol Daleithiau, trawsnewidiwyd Teyrnas Hawai'i yn weriniaeth. Rheolwyd hi gan Sanford B. Dole tan i'r Unol Daleithiau gyfeddiannu Hawai'i yn anghyfreithiol yn 1898. Yn ystod ei gyfnod wrth y llyw, dibynnai Dole yn bennaf ar dirfeddianwyr gwyn. Yn 1887, newidiwyd yr hawl i bleidleisio yn y frenhiniaeth gyfansoddiadol, gan eithrio pobl o dras Asiaidd yn llwyr rhag pleidleisio ac yn clymu'r hawl i bleidleisio i isafswm incwm, a oedd hefyd yn eithrio cyfran fawr o Bolynesiaid rhag cymryd rhan ac yn symud cydbwysedd grym i ddwylo'r Ewropeaid cyfoethog. Hyrwyddai Sanford orllewinoli diwylliant a chymdeithas Hawaii.
Rhwng 1898 a 1959, roedd Hawai'i yn diriogaeth i'r Unol Daleithiau ac fe'i hymgorfforwyd yn y ffederasiwn yn 1959 fel 50fed talaith yr Unol Daleithiau, a'r diweddaraf hyd heddiw.
Datblygiad y Mudiad
[golygu | golygu cod]Mae cefnogwyr annibyniaeth yn dadlau nad oedd unrhyw sail gyfreithiol i gyfeddiannu'r ynys a bod Hawai'i felly'n genedl a feddiannwyd yn anghyfreithlon.[2]
Ym 1993, 100 mlynedd ar ôl cwymp y frenhiniaeth, pasiodd Cyngres yr Unol Daleithiau Ddeddf Ymddiheuriad Hawai'i, a gondemniodd ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn ffurfiol.[3]
Yn 2008, meddiannodd grŵp o Hawaiiaid ethnig adeilad Palas Iolani a datgan annibyniaeth yr ynys oddi ar yr Unol Daleithiau. Daeth yr heddlu â'r weithred i ben, a chafodd sawl protestiwr fân anafiadau.[4] Yn yr un flwyddyn, siaradodd un o swyddogion Rwsia, Alexei Avotomonov, o blaid "dad-drefedigaethu" Hawai'i.
Yn 2009, dangosodd y gwyddonydd gwleidyddol o Hawai'i, Noenoe K. Silva, natur ffrwydrol y mater o ran cyfraith ryngwladol gyda'i ddadansoddiad o hanes yr ynys (Aloha Brady: Native Hawaiian Resistance to American Colonialism).[5] Roedd Barack Obama, Arlywydd yr Unol Daleithiau ar y pryd, ac a aned yn Hawai'i, yn agored i'r ymdrechion am fwy o annibyniaeth mewn egwyddor.[4]
Yn 2010, roedd y Gyngres ar fin pasio Mesur Akaka (a enwyd ar ôl y Seneddwr Daniel Akaka), a fyddai wedi cydnabod yr Hawaiiaid fel un o bobloedd brodorol America. Fodd bynnag, ni fyddai hawliau penodol, megis yr hawl i hapchwarae a chwestiynau ynghylch perchnogaeth tir, wedi'u cynnwys, yn wahanol i rai o bobloedd brodorol cyfandir America. Yn y pen draw, daeth gwahaniaethau cysylltiedig â chynnwys y bil ac fe'i gwrthodwyd gan y Hawaiiaid gan arwain at fethiant y bil. O'i arwyddo, byddai'r Hawäiaid hefyd wedi cydnabod yn ffurfiol anecsiad yr ynys ac wedi ymwrthod ag annibyniaeth.
Ar 11 Mai 2015, cynigiodd Pacistan yng Nghyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa i ddilyn cynnig Alfred de Zayas (arbenigwr y Cenhedloedd Unedig ar hyrwyddo trefn ddemocrataidd a chyfiawn byd), a gynigiodd yn 2013 roi Hawai'i ac Alaska yn ôl ar y rhestr o diriogaethau nad ydynt yn hunanlywodraethol, y cawsant eu tynnu'n anghyfreithlon ohonynt yn 1959. Cynrychiolir pobl frodorol Hawaii gerbron y Cyngor gan Leon Kaulahao Siu fel llysgennad Cynghrair ar gyfer Hunan Benderfyniad Alaska a Hawaii. Mae Siu hefyd yn “weinidog tramor cysgodol” i Lywodraeth Teyrnas Hawai'i, grŵp sy’n gweld ei hun fel “olynwyr y Deyrnas Hawaiaidd sydd wedi goroesi”. Mae'n dibynnu ar y boblogaeth frodorol, y mwyafrif ohonynt wedi pleidleisio o blaid y mudiad annibyniaeth yn 2014.
Symbolau
[golygu | golygu cod]Baner Swyddogol mewn Trallod
[golygu | golygu cod]Baner Hawai'i a'i hwyneb i waered yw un o brif symbolau annibyniaeth Hawai'i. Faner yw hon a chanddi Jac yr Undeb yn y canton. Dyma oedd baner yr ynysoedd pan oeddynt yn frenhiniaeth annibynnol a gydnabuwyd gan wladwriaethau eraill gan gynnwys y Deyrnas Unedig, a'r faner a arddelir gan yr ynysoedd fel un o Unol Daleithiau America. Mae cyhwfan baner wyneb i wared yn arwydd o drallod ym maes banereg ac felly'n symbol o drallod y genedl.
Baner Kānaka Maoli
[golygu | golygu cod]Ceir hefyd baner Kānaka Maoli ("y gwir bobl") a gyflwynwyd yn 2001. Gene Simeona a'i chynlluniodd.[6] Mae ganddi naw streipen, sy'n wyrdd, coch, a melyn bob yn dri, wedi'u difwyno â tharian werdd gyda puela (stribed o arwyddlun brethyn rhisgl kapa a hedfanir ar ben canŵ dwbl penaethiaid) wedi'i groesi gan ddau badl. Honnai Simeona fod yn cynllun yn seiledig ar un hynach ond prin yw'r tystiolaeth o hyn. Er bod amheuaeth am ei wir hanes, mae'r faner wedi ei mabwysiadu gan nifer sy'n galw am hawliau i iaith a chenedl Hawai'i.[7]
Grwpiau
[golygu | golygu cod]Rhennir y mudiad annibyniaeth yn sawl grŵp. Cefnogir annibyniaeth yn bennaf gan ddisgynyddion y boblogaeth wreiddiol, tra bod y diddordeb ymhlith gweddill y boblogaeth braidd yn isel.
Y ddau grŵp mwyaf yw Nation of Hawai'i dan arweiniad Dennis Kanahele a'r Hawaiian Kingdom,[8] a ffurfiwyd gan David Keanu Sai a Kamana Beamer. Mae'r ddau fudiad yma'n gweld eu hunain yn nhraddodiad Teyrnas Hawai'i ac eisiau adfer y frenhiniaeth ar ffurf gyfansoddiadol. Mae yna hefyd grwpiau fel Aboriginal Lands of Hawaiian Ancestry, Ka Lāhui Hawaii, a Ka Pākaukau, sy'n ymgyrchu dros annibyniaeth neu o leiaf mwy o ymreolaeth a hawliau pobloedd brodorol.
Yn ystod y 1920, roedd Plaid Ymreolaeth Hawaii yn weithgar, ac erbyn hyn ceir plaid Aloha ʻĀina, sy'n ymgyrchu dros fwy o ymreolaeth, ond heb geisio annibyniaeth.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Hawai'ian Kingdom gwefan gwybodaeth am y mudiad
- Overview – Independent & Sovereign Nation-state of Hawai'i gwybodaeth am y mudiad Sofraniaeth
- The Hawaiian Kingdom, sovereignty and 131 years of illegal occupation sgwrs gyda Dr Keanu Sai ar sianel a phodlediad Keep it Aloha (2024)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Ardaiz, Aran Alton (2008). "Hawai'i The Fake State a nation in captivity". Truth of God Ministry Hawai'ian State. tt. Chapter 10 Restoring Hawaiian Citizenship. Cyrchwyd 2 Medi 2024.
- ↑ "As Feds Hold Hearings, Native Hawaiians Press Sovereignty Claims". Route Fifty. 2012. Cyrchwyd 2 Medi 2024.
- ↑ The Rape of Paradise The Second Century Hawai'ians Grope Toward Sovereignty As The U.S. President Apologizes, Perceptions Magazine, 1996, https://hawaii-nation.org/rape.html, adalwyd 2 Medi 2024
- ↑ 4.0 4.1 Hannah Pilarczyk: Hawaii: Obamas Heimat auf Abwegen. Cyhoeddwyd: stern.de, 20 Ionawr 2009, cyrchwyd 3 Hydref 2015.
- ↑ Thomas Bargatzky: Noenoe K. Silva. Aloha Betrayed: Native Hawaiian Resistance to American Colonialism. Adolygiad o'r llyfr o'r un enw yn Jahrbuch für europäische Überseegeschichte 9. Harrassowitz, Wiesbaden 2009, ISBN 978-3-447-06164-3, S. 387–389.
- ↑ "What's the Story Behind Hawaii's Flag?". Hawaii Magazine (yn Saesneg). 2008-10-21. Cyrchwyd 2023-06-15.
- ↑ "What's the Story Behind Hawaii's Flag?". Hawaii Magazine (yn Saesneg). 2008-10-21. Cyrchwyd 2022-09-21.
- ↑ "Hawaiian Kingdom". Gwefan Hawaiian Kingdom. Cyrchwyd 2 Medi 2024.