Neidio i'r cynnwys

The Hawaiian Kingdom

Oddi ar Wicipedia
The Hawaiian Kingdom
Mathannibyniaeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Hawaii Hawaii

Mae The Hawaiian Kingdom yn fudiad dros adfer annibyniaeth Teyrnas Hawai'i, neu, fel y byddant yn dadlau dros weithredu gwladwriaeth Hawai'i annibynnol a oresgynwyd yn anghyfreithiol yn ôl gyfraith ryngwladol gan Unol Daleithiau America. Mae'n gweithredu fel Cyngor Rhaglywiaeth Dros-dro Teyrnas Hawai'i.[1]

Fe'i sefydlwyd gan David Keanu Sai sy'n galw ei hun yn 'Weinidog Gwladol' a Chadeirydd Cyngor Rhaglawiaeth Hawai'i (Hawaiian Council of Regency).[1] Mae Sai yn ddarlithydd mewn Gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Hawai'i.[2]

Cennad y corff

[golygu | golygu cod]
Liliuokalani, Brenhines olaf Teyrnas Hawai'i a ddiorseddwyd mewn coup d'état gan wladychwyr Americanaidd. Mae The Kingdom of Hawaii yn gweithredu fel llywodraeth parhâd ei theyrnas annibynnol

Gwêl y mudiad eu hunain fel parhad sofraniaeth Hawai'i wedi goresgyniad yr ynysoedd gyda coup d'état gan dirfeddianwyr Americanaidd yn yr 1890au a arweiniodd, yn y pen draw, at gymhathu cenedl Hawaii yn llwyr i Unol Daleithiau America fel yr hanner canfed talaith.

Dywed y grŵp:

"Ers goresgyniad a dymchweliad yr Unol Daleithiau ar lywodraeth Teyrnas Hawaii ar 17 Ionawr 1893, mae ein Cenedl wedi bod dan feddiannaeth hirfaith gan Unol Daleithiau America. Mae ein tudalennau gwe yn dweud wrthych am yr ystod o weithgareddau a gyflawnwyd gan Lywodraeth Hawai i ddatblygu ein cysylltiadau â chymuned y Cenhedloedd o ran meddiannaeth a'r buddion economaidd dwys sy'n deillio o'i hamlygiad."[3]

Prif amcan Llywodraeth Teyrnas Hawaii yw amlygu'r ffaith bod Hawai'i wedi'i chyfeddiannu, a sicrhau cydymffurfiaeth â chyfraith ddyngarol ryngwladol, sy’n cynnwys Confensiwn yr Hag IV 1907, Confensiwn Genefa 1949, IV, Protocol Ychwanegol I 1977, a statudau domestig y wlad, er mwyn darparu sylfaen ar gyfer trawsnewid a diwedd meddiannaeth Teyrnas Hawaii yn y pen draw. Mae Erthygl 43 o Gonfensiwn yr Hag IV 1907 yn gorchymyn bod yn rhaid i’r Wladwriaeth feddiannol, sef Unol Daleithiau America, weinyddu cyfreithiau’r Wladwriaeth feddiannol, sef Teyrnas Hawai, ac mae unrhyw wyriad o’r mandad hwn yn groes i gyfraith ryngwladol.[3]

Brenhiniaeth

[golygu | golygu cod]
Arfbais Teyrnas Hawai'i

Mae'r mudiad yn nodi bod y wladwriaeth yn Frenhiniaeth Gyfansoddiadol. Ceir disgrifiad bras o rôl a phwerau'r frenhiniaeth a natur y ddeddfwrfa. Mae hyn yn seiliedig ar y gyfundrefn yn Nheyrnas Hawai'i cyn meddiannaeth yr Unol Daleithiau. Serch hynny, nid yw'n glir pwy fyddai'r Brenin neu'r Frenhines nac sut y gwneir y dewis hwnnw.[4]

Bondiau

[golygu | golygu cod]

Mae The Hawaiian Kingdom yn cyhoeddi bond ar gyfer ariannu'r ymgyrch a'r egin wladwriaeth. Fe'i cyhoeddir ar Gyfradd Sefydlog Gyfredol o 2.50% gyda'r isafswm pryniant yn $100 am fond $100 a'r uchafswm pryniant yn $100,000 am fond $100,000. Gellir ei adbrynu ar lefel gyfartal o fewn blwyddyn ar ôl y 5ed flwyddyn o'r dyddiad pan ddaw meddiannaeth filwrol Unol Daleithiau America ar Ynysoedd Hawaii i ben a bod llywodraeth Hawaii mewn rheolaeth effeithiol wrth arfer ei sofraniaeth. Cyfnod ennill llog yw 6 blynedd.

Yn hyn o beth, mae'r Hawaiian Kingdom yn dilyn llwybr Iwerddon. Nodant, pan oedd Gweriniaeth Iwerddon yn ymladd am eu hannibyniaeth ar Brydain Fawr o 1919-1921, gwerthodd llywodraeth Iwerddon fondiau gyda'r amod canlynol:

Said bonds shall be exempt from any taxes whatsoever and shall bear interest payable semi-annually at the rate of not more than six per centum per annum and shall be redeemable not less than five nor more than twenty years after the date of their issue, the principal and interest to be paid in gold coin of the United States or its equivalent.[5]

Gweithredu

[golygu | golygu cod]

Mae'r mudiad yn llefaru a hyrwyddo'r wybodaeth i Hawai'i gael ei meddiannu'n anghyfansoddiadol ac yn gweithio i ddod â Llywodraeth yr Unol Daleithiau i weithredu dad-feddiannu'r ynysoedd.

Bu i'r Hawaiian Kingdom gyflwyno achos gerbron y Llys Cyflafareddu Parhaol yn yr Hag, yr Iseldiroedd, rhwng Tachwedd 1999 a Chwefror 2001.[6]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "New Documentary on the acting Council of Regency". 2019.
  2. "Dr David Keanu Sai". Prifysgol Hawai'i. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
  3. 3.0 3.1 "The Chairman's Welcome". Gwefan The Hawaiian Kingdom. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
  4. "Government System". Gwefan The Hawaiian Kingdom. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
  5. "Bonds". Gwefan The Hawaiian Kingdom. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
  6. "Dr. David "Keanu" Sai". Gwefan Hawaiian Edu. Cyrchwyd 9 Medi 2024.
Eginyn erthygl sydd uchod am Hawaii. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.