Liliʻuokalani

Oddi ar Wicipedia
Liliʻuokalani
GanwydLydia Liliʻu Loloku Walania Kamakaʻeha Edit this on Wikidata
2 Medi 1838 Edit this on Wikidata
Honolulu Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 1917 Edit this on Wikidata
Honolulu Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Teyrnas Hawaiʻi Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Royal School Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, cyfansoddwr, teyrn, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Edit this on Wikidata
Adnabyddus amHe Mele Lahui Hawaii Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolHawaiian National Party Edit this on Wikidata
TadKapaakea Edit this on Wikidata
MamKeohokālole Edit this on Wikidata
PriodJohn Owen Dominis Edit this on Wikidata
PlantJohn ʻAimoku Dominis Edit this on Wikidata
PerthnasauKōnia Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Kalākaua Edit this on Wikidata
Gwobr/auUrdd y Goron Werthfawr, Dosbarth 1af, Urdd y Goron Werthfawr Edit this on Wikidata
llofnod

Awdur, cyfansoddwraig cerddoriaeth Hawäiaidd a brenhines olaf Teyrnas Hawäi oedd Liliʻuokalani (ganwyd yn Lydia Liliʻu Loloku Walania Wewehi Kamakaʻeha; 2 Medi 183811 Tachwedd 1917). Teyrnasai o 29 Ionawr 1891 hyd ddymchweliad Teyrnas Hawäi ar 17 Ionawr 1893.

Fe'i ganwyd ar 2 Medi 1838 yn Honolulu ar ynys Oʻahu. Analea Keohokālole a Caesar Kapaʻakea oedd ei rhieni ond fe'i mabwysiadwyd yn anffufiol (hānai) ar ei genedigaeth gan Abner Pākī a Laura Kōnia. Magwyd hi gyda theulu Bernice Pauahi Bishop, sylfaenydd Ysgolion Kamehameha. Bedyddiwyd hi'n Gristnoges a'i haddysgu yn yr Ysgol Frenhinol yn Hawäi. Ystyrid hi, ei brodyr, ei chwiorydd a'i chefndryd yn gymwys i esgyn i'r orsedd gan y Brenin Kamehameha III.

Priododd hi John Owen Dominis, a anwyd yn America ac a ddaeth yn Llywodraethwr Oʻahu wedyn. Nid oedd gan y pâr blant biolegol ond fe fabwysiadasant sawl un. Ar ôl i'w brawd Kalākaua ddod yn frenin ym 1874, cafodd ei brodyr, ei chwiorydd a hithau deitlau Tywysog a Thywysoges yn null y Gorllewin. Ym 1877, ar ôl i'w brawd iau Leleiohoku II farw, cyhoeddwyd hi'n etifedd eglur i'r orsedd. Yn ystod hanner canmlwyddiant y Frenhines Fictoria, hi oedd yn cynrychioli ei brawd fel y llysgennad swyddogol i'r Deyrnas Unedig.

Daeth Liliʻuokalani yn frenhines ar 29 Ionawr 1891 ar ôl marwolaeth ei brawd. Yn ystod ei theyrnasiad, ceisiodd lunio cyfansoddiad newydd a fyddai'n adfer grym y fonarchiaeth a rhoi'r hawl i bleidleisio i bobl ddifreintiedig. Oherwydd bygythiad ei hymdrechion i ddiddymu Cyfansoddiad Bayonet, diorseddodd pobl bleidiol i America yn Hawäi y fonarchiaeth ar 17 Ionawr 1893. Cefnogwyd hyn wrth i fôr-filwyr yr Unol Daleithiau lanio dan John L. Stevens, a olygai na allai'r fonarchiaeth amddifyn ei hun. Ar ôl methiant Gwrthryfel Wilcox ym 1895, cyfyngwyd Liliʻuokalani i Balas ʻIolani gan lywodraeth Gweriniaeth Hawäi. Roedd rhai wedi ymdrechu i adfer y fonarchiaeth a gwrthwynebu cydio'r wlad wrth Unol Daleithiau America, ond yn dilyn Rhyfel Sbaen–America, fe ddaeth Gwerinaeth Hawäi yn rhan o'r Unol Daleithiau.

Bu Liliʻuokalani byw gweddill ei bywyd fel dinesydd preifat a marw yn ei thŷ Washington Place yn Honolulu ar 11 November 1917.