Neidio i'r cynnwys

Morgan Maddox Morgan-Owen

Oddi ar Wicipedia
Morgan Maddox Morgan-Owen
Ganwyd20 Chwefror 1877 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw14 Awst 1950 Edit this on Wikidata
Willington Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethpêl-droediwr, rheolwr pêl-droed Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auNottingham Forest F.C. Edit this on Wikidata
Saflehanerwr asgell Edit this on Wikidata

Cyn bêl-droediwr o Gymru oedd Morgan Maddox Morgan-Owen (20 Chwefror 187714 Awst 1950). Llwyddodd i ennill 12 cap dros Gymru rhwng 1897 a 1907 ac roedd yn aelod blaenllaw o glwb pêl-droed amatur Corinthian. Cafodd ei ddisgrifio fel "y Corinthian mwyaf o'r cyfnod Edwardaidd" gan hanesydd y clwb, Norman Creek[1].

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Cafodd Morgan-Owen ei eni yng Nghaerdydd yr hynnaf o chwech o blant i Timothy Morgan-Owen, Arolygwr Ysgolion, ac Emma Maddox[2]. Cafodd ei addysg yn Ysgol Colet, Y Rhyl, Ysgol Amwythig a Choleg Oriel, Rhydychen gan gynrychioli tîm pêl-droed Prifysgol Rhydychen yn eu gêm flynyddol yn erbyn Prifysgol Caergrawnt ar dair achlysur - ym 1897, 1898 a 1900 a sgoriodd y ddwy gôl yn y fuddugoliaeth 2-0 dros Caergrawnt ym 1900.[3][4]

Gyrfa bêl-droed

[golygu | golygu cod]

Gwnaeth Morgan-Owen ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ym 1897 yn erbyn Iwerddon tra ym Mhrifysgol Rhydychen ac wedi gadael y Brifysgol, chwaraeodd i dîm amatur enwog Corinthian. Roedd yn gefnogwr brwd o'r ethos amatur ac ym 1906, pan gafwyd rhaniad yng Nghymdeithas Bêl-droed Lloegr dros chwaraewyr a chlybiau proffesiynol, roedd Morgan-Owen yn allweddol wrth ffurfio'r Gymdeithas Bêl-droed Amatur (Saesneg: The Amateur Football Association)[3].

Ym 1903, er cael ei ddewis i chwarae dros Gymru yn erbyn Lloegr, penderfynodd Morgan-Owen a'i frawd Hugh Morgan-Owen, oedd hefyd yn chwaraewr rhyngwladol, chwarae dros dîm yr Old Salopians yn erbyn yr Old Carthusians yn rownd derfynol Cwpan Arthur Dunn - cystadleuaeth i dimau cyn ddisgyblion Ysgolion Bonedd - ar yr un prynhawn[3][5].

Teithiodd Morgan-Owen gyda thîm Corinthian i Hwngari, Yr Almaen, Bohemia, Y Swistir, Ffrainc, Sbaen, Canada a'r Unol Daleithiau ac roedd yn gapten y clwb ar eu taith i Frasil ym 1910[6]; taith welodd y clwb yn ysbrydoli gweithwyr rheilffordd yn Sao Paulo i sefydlu Sport Club Corinthians Paulista[7].

Ym 1921, daeth Morgan-Owen yn lywydd ar y clwb ac roedd yn is-lywydd anrhydeddus ar y Gymdeithas Bêl-droed Amatur.

Morgan-Owen, gwaelod dde, cyn cychwyn ar daith gyda thim y Brifysgol yn 1899.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

[golygu | golygu cod]

Ym 1914, roedd Corinthian FC ar daith arall i Dde America gan hwylio o Southampton. Erbyn cyrraedd Brasil roedd y Rhyfel Byd Cyntaf wedi cychwyn, felly teithiodd Morgan-Owen a'i gyfoedion yn syth yn ôl i Brydain er mwyn gwasanaethu[6]. Cyn y rhyfel, roedd Morgan-Owen wedi bod yn Gapten gyda Chatrawd Essex (Saesneg: Essex Regiment) Fyddin Diriogaethol ac ymunodd â'r gatrawd ar ôl dychwelyd o Frasil.

Cafodd y gatrawd eu gyrru i Gallipoli lle cafodd Morgan-Owen ei ddyrchafu i fod yn Uwchgapten cyn cael ei anafu a'i yrru i'r Aifft. Ym 1916, ar ôl gwella o'i anafiadau, cafodd Morgan-Owen ei yrru i ymuno â'r 11th Battalion Rifle Brigade oedd yn Guillemont, Ffrainc yn paratoi ar gyfer Brwydr y Somme[8] a parhaodd gyda'r catrawd hyd at Drydedd Brwydr Ypres ym 1917.

Ym mis Rhagfyr 1917, cafodd ei benodi'n Lefftenant-Cyrnol i arwain y 10th Battalion Rifle Brigade[9] a chafodd ei urddo â'r D.S.O. yn ystod Brwydr Cambrai[3].

Wedi'r Rhyfel

[golygu | golygu cod]

Wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd Morgan-Owen i ddysgu a cafodd ei benodi'n athro yn Ysgol Repton lle roedd yn athro ar Roald Dahl[10]. Ar ôl ymddeol ym 1937, daeth yn Lywodraethwr ar Ysgol Repton a Choleg Amaethyddol Midland, oedd yn rhan o Brifysgol Nottingham.

Bu farw yn Willington Hall, Swydd Derby ar 14 Awst 1950 yn 73 mlwydd oed ac mae cofeb iddo yn Eglwys St. Michael, Willington.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "The Cardiff football star who helped to kick-start Brazil's love of football". Western Mail. WalesOnline.
  2. "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton. owen.cholerton.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-08-02.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 Davies, Gareth M.; Garland, Ian (1991). Who's Who of Welsh International Soccer Players. Bridge Books. t. 144. ISBN 1 872424 11 2.
  4. "Varsity Match 1899/1900". ouafc.com.[dolen farw]
  5. "History of the Old Salopian Football Club". Old Salopian FC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-05-28. Cyrchwyd 2015-08-02.
  6. 6.0 6.1 "Corinthians - Taking the Beautiful Game Across the Globe". Corinthian-Casuals.com.
  7. "No Bom Retiro, Em 1910, Começa esta História" (yn Portwgaleg).CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-08-03.
  9. Hodgkinson, Dr Peter E. British Infantry Battalion Commanders in the First World War]. t. 78. ISBN 1 472438 256.
  10. "James Owen of Penrhos and his descendants". Owen Cholerton. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-05. Cyrchwyd 2015-08-03.