Cymdeithas Bêl-droed Lloegr
Gwedd
| Enghraifft o: | ffederasiwn pêl-droed |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 26 Hydref 1863 |
| Prif weithredwr | Mark Bullingham |
| Aelod o'r canlynol | Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol, Ffederasiwn Rhyngwladol y Cymdeithasau Pêl-droed, UEFA |
| Isgwmni/au | Wembley National Stadium Ltd |
| Rhiant sefydliad | UEFA |
| Pencadlys | Stadiwm Wembley |
| Enw brodorol | The Football Association |
| Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
| Gwefan | https://thefa.com/ |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0chl9 |

Cymdeithas Bêl-droed Lloegr (Saesneg: The Football Association (FA)) ydy corff llywodraethol pêl-droed yn Lloegr, Jersey, Guernsey ac Ynys Manaw. Fe'i ffurfiwyd ym 1863 sy'n golygu ei fod y gymdeithas bêl-droed hynnaf yn y byd ac fel y gymdeithas gyntaf erioed, nid yw'r gair English yn ymddangos yn nheitl swyddogol y gymdeithas.
Mae'r FA yn aelodau o UEFA a FIFA ac â sedd barhaol ar y Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol (IFAB) sy'n gyfrifol am lunio rheolau'r gamp. Mae'r FA yn aelod o Gymdeithas Olympaidd Prydain Fawr (BOA), sy'n golygu mai'r FA sydd yn gyfrifol am dimau pêl-droed Prydain Fawr yn y Gemau Olympaidd[1].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rio 2016: FA scraps plans for Great Britain football teams". bbc.co.uk. Unknown parameter
|published=ignored (help)