Meugan ach Gwenonwy

Oddi ar Wicipedia
Meugan ach Gwenonwy
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata

Santes oedd yn byw tua diwedd y 5g oedd Meugan.

Gelwid hi weithiau Morgan. Bu yn ferch i Gwenonwy ach Meurig ap Tewdrig a Gwyndaf Hen ap Emyr Llydaw a felly yn gyfnither i blant Brychan Brycheiniog.[1]

Cysylltiadau[golygu | golygu cod]

Cysylltir nifer o lefydd gyda Meugan, felly mae yn bosibl fod dwy neu dair santes wedi dwyn yr un enw.[2] Maent yn cynnwys Cilfeugan ger Afon Wysg, Llanfeugan, ger Aberhonddu, Sant Meugan yng Gwent, Trefeugan ger Tŷ Ddewi ble derbyniodd Dewi rhan cyntaf o'i addysg, Capel Meugan ym Mridill, Sir Benfro, Eglwyswen ym Mhenfro a elwyd Llanfeugan ers talwm, a nifer o lefydd yng Nghernew. Bu Pistell Meugan ger Eglwyswrw yn enwog am iachau sawl fath o afiechyd.

Mae'n bosibl fod Martin o Tours wedi dylanwadu yn fawr arni am fod Ffair Meugan yn cael ei chynnal ar y dydd Llun ar ôl Gŵyl Sant Martin.

Ni dylid cymysgu hi gyda Meugan, sant oedd yn gweithio yng ngogledd Cymru yn y 7g.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, T.T. 1977, The daughters of Brychan, Brycheiniog XVII
  2. Bowen, E.G. 1956, The Settlements of the Saints of Wales, Gwasg Prifysgol Cymru