Meurig ap Tewdrig

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Brenin teyrnasoedd Gwent a Glywysing yn ne-ddwyrain Cymru yn yr Oesoedd Tywyll cynnar oedd Meurig ap Tewdrig (Lladin: Mawrisiws, Ffrangeg : Maurice) (fl. 6g OC, efallai tua 585 - 665?). Roedd yn fab i'r brenin Tewdrig (Sant Tewdrig).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Rydym yn dibynnu ar dystiolaeth y siarteri cynnar a geir yn Llyfr Llandaf ac ar rai o'r achau Cymreig am ein gwybodaeth amdano, ac felly rhaid trin y dystiolaeth yn ofalus.[1]

Ymddengys fod Meurig wedi cymryd drosodd fel brenin Gwent pan ymddeolodd ei dad Tewdrig i fynd yn feudwy yng nghlas Tyndyrn, yn ôl traddodiad. Ond dywedir i'w dad ddod allan o'i ymddeoliad i'w gynorthwyo yn erbyn y Sacsoniaid oedd yn ceisio goresgyn Gwent ac i'r ddau orchfygu'r goresgynwyr ym Mrwydr Pont y Saeson. Clwyfwyd Tewdrig yn angeuol a bu farw ar ôl y frwydr. Claddodd Meurig ei dad ym Matharn, a rhoddodd y tir amgylchynnol (yn cynnwys ardal Pwllmeurig), yn rhodd i Esgobion Llandaf. Fodd bynnag, mae lle i amau dilysrwydd y rhan honno o'r hanes o leiaf, am fod Llandaf yn awyddus i osod allan ei hawl i dir mewn sawl rhan o dde Cymru ac yn cofnodi'r hawliau hynny ganrifoedd yn ddiweddarach yn Llyfr Llandaf.[1]

Ymddengys fod Meurig wedi aduno ei deyrnas ag Erging (mân deyrnas gynnar yn yr hyn sy'n Swydd Henffordd heddiw) trwy briodi Onbrawst, ferch Gwrgan Fawr o Erging. Honna Llyfr Llandaf fod Meurig wedi rhoi llawer o dir yn rhodd i glas Llandaf, lle cafodd ei gladdu.[1]

Roedd yn dad i Athrwys ap Meurig. Credir i Athrwys farw cyn Meurig, ac i'w wyrion, Ithel a Morgan Mwynfawr, etifeddu'r deyrnas.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Wendy Davies, The Llandaff Charters (Aberystwyth, 1979).