Mennoniaid

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Eglwys y Mennoniaid yn Hamburg.

Enwad Protestannaidd a ddeilliodd o'r Ailfedyddwyr yw'r Mennoniaid neu'r Menoniaid. Cyfododd y Mennoniaid yn yr Iseldiroedd a'r Almaen tuag amser y Diwygiad Protestannaidd. Enwir y sect ar ôl y diwygiwr Ffrisiaidd Menno Simons (1496–1561), offeiriad Pabyddol a ymunodd â'r Ailfedyddwyr ym 1536. Pwysleisiodd ei athrawiaeth fedydd credinwyr mewn oed, disgyblaeth eglwysig, heddychaeth, a gwrthod gwasanaethu fel ynadon. Wedi ei farwolaeth, tyfodd fudiad efengylaidd o'i ddilynwyr yn y Swistir. Mudodd nifer ohonynt i'r Almaen i ddianc erledigaeth. Lledodd y Mennoniaid i Ffrainc, Rwsia a'r Iseldiroedd. Cyhoeddwyd Cyffes Ffydd Dordrecht yn yr Isalmaen ym 1632. Ymfudodd nifer o Fennoniaid i Ogledd America, yn bennaf Pensylfania ac Ohio.

Hanes cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyd-destun y Diwygiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymgododd y Mennoniaid o'r newidiadau chwyldroadol yng Nghristnogaeth Ewrop yn yr 16g, y cyfnod hwn a elwir y Diwygiad Protestannaidd, a ffrwydrodd pan hoeliodd Martin Luther ei gŵynion yn erbyn yr Eglwys Babyddol i ddrws yr eglwys yn Wittenberg ym 1517. Gellir olrhain llinach y Mennoniaid i'r Brodyr Swisaidd, criw o Ailfedyddwyr a ffurfiasant ger Zürich ym 1525, wedi iddynt wrthod y diwygiwr Ulrich Zwingli ar bynciau'r bedydd ac aelodaeth yr eglwys. Cwestiynai'r arfer o fedyddio babanod gan Konrad Grebel, Felix Manz, a'r arweinwyr eraill ar sail eu dealltwriaeth hwy o'r Beibl. Dyma'r anghydfod a roes i'r Ailfedyddwyr eu henw. Ond mae'n debyg taw natur yr eglwys oedd y ffrae bwysicaf yn y rhwyg: credai'r Ailfedyddwyr y dylai'r eglwys Gristnogol dderbyn yn unig y rhai sy'n proffesu eu ffydd yn yr Iesu yn gyhoeddus. Ceisiodd yr awdurdodau eglwysig a gwleidyddol atal y fath oddefgarwch crefyddol, a gyrhasant y Brodyr Swisaidd ar wasgar trwy wledydd Ewrop. Er yr erledigaeth yn eu herbyn, denodd eu hathrawiaeth gredinwyr newydd a pharhaodd y mudiad i dyfu.

Menno a'i ddilynwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Darluniad o Menno Simmons.

Ym 1524, cymerodd Menno Simons urddau offeiriadol yn yr Eglwys Babyddol. Tueddfwyd ef i chwilio'r Testament Newydd yn astud mewn canlyniad i amheuon a goleddai ynghylch athrawiaeth trawsylweddiad. Siglwyd ei ffydd yn athrawiaethau'r grefydd Babyddol, yn enwedig y berthynas i'r "gwir bresenoldeb" yn yr ordinhâd o Swper yr Arglwydd: credai nad oeddynt mewn cysondeb â dysgeidiaeth y Beibl. Newidiodd ei farn hefyd ar y pwnc o fedydd babanod. Pan y daeth ei farnau ar y bedydd yn adnabyddus, fe'i perswadiwyd i gymryd gofal bugeiliol eglwys a chynulledifa oedd yn dwyn cysylltiad â'r rhai a elwid yn Ailfedyddwyr – oedd, fel yntau, yn condemnio trais y radicalwyr a'r milflwyddwyr a wrthryfelodd ym Münster. Gadawodd Menno yr eglwys ym 1536 gan ddatgan nad oedd bellach yn credu i fedyddio babanod ac ambell agwedd arall y ddysgeidiaeth Gatholig. Cafodd ei fedyddio'n aelod o'r Ailfedyddwyr, ac ym 1537 ei urddo'n oruchwyliwr (megis esgob).

Parhaodd Menno i lafurio'n galed am gyfnod o bum mlynedd ar hugain, gan ledaenu ei syniadau neillduol nid yn unig yn ei wlad enedigol Fryslân, ond trwy'r holl Iseldiroedd a'r Almaen. Ac i'r diben hwn teithiai gyda'i wraig a'i blant holl daleithiau'r gwledydd hyn ac roedd ei weinidogaeth, yn ôl tystiolaeth yr hanesydd eglwysig Mosheim, yn hynod o lwyddiannus. Trwy ymwrthod â syniadau mwyaf eithafol yr Ailfedyddwyr roedd ei weinidogaeth yn tynnu ato ddilynwyr heddychlon a ffyddlon, ac yn y modd hwn daeth i gael ei gydnabod yn flaenor plaid newydd. Hyd yn hyn, fodd bynnag, nid oedd yr awdurdodau gwladol yn ystyried fod dim gwahaniaeth rhwng ei ddilynwyr ef a'r Ailfedyddwyr gwreiddiol, canlynwyr Münster. Pregethodd Menno athrawiaeth heddychlon yn yr Iseldiroedd, ond bu'n ffoi i'r Almaen ym 1544 wedi iddo gael ei gyhuddo o fod yn heretic. Er fod Menno yn fynych yn agored i ymosodiadau ac erlidiau, parhaodd yn eofn i gyflawni ei waith. Dioddefodd rhai o'r Mennoniaid ferthyrdod. Dihangodd eraill, ac yn eu plith Menno ei hun, rhag yr un dynged trwy gael derbyniad i balas rhyw bendefig yn Nugiaeth Holstein. Yno y cawsant noddfa ddiogel rhag erledigaeth, ac yno y bu farw Menno yn y flwyddyn 1561. Cyhoeddwyd ei ysgrifeniadau, y rhai a gyfansoddwyd ym mron i gyd yn yr Iseldireg, yn Amsterdam ym 1651.

Ymrannu oddi ar yr Ailfedyddwyr[golygu | golygu cod y dudalen]

Un o sawl cangen o'r Ailfedyddwyr oedd y Brodyr Swisaidd a'r Mennoniaid cynnar. Blodeuodd carfan arall yng nghanolbarth yr Almaen yn nechrau'r 16g, dan arweiniad Hans Hut, Hans Denk, a Pilgram Marpeck. Datblygodd Melchior Hofmann athrawiaeth ei hun yn Strasbwrg, a dyma'r ddysgeidiaeth a ddylanwadodd ar wrthryfelwyr Münster. Arweiniwyd cangen arall o frodyr gan Jakob Hutter, a goroesai cymunedau a chenhadaeth yr Hutteriaid tan yr 17g.

Heb law eu bod yn cytuno â'r Ailfedyddwyr yn eu golygiadau ar fedydd, roedd Mennoniaid yr 16g yn cydolygu â hwynt gyda golwg ar amryw o athrawiaethau eraill a goleddid ganddynt: anghyfreithlondeb llwon a rhyfeloedd, hyd yn oed pan y byddont mewn hunan-amddiffyniad, yr amhriodoldeb o ymgyfreithio, a bwriad allan yr ynadon gwladol o'r eglwys. Credant hefyd yn nheyrnasiad personol Crist ar y ddaear ym mil blynyddoedd, y gredo a fynegir gan filflwyddwyr Münster. Ond â'r syniadau hynny, a goleddid gan ganlynwyr Münster o brysura dyfodiad Crist trwy dywallt gwaed, nid oeddynt mewn un modd yn cydsynio. Pob ymarferiad anfoesol hefyd, yr oeddynt fel sect yn eu hanghymeradwyo.

Ond o'r braidd y darfu i'r Mennoniaid ymwahanu oddi wrth yr Ailfedyddwyr, nad oeddynt yn dechrau ymrannu yn eu plith eu hunain. Y prif bwnc mewn dadl rhyngddynt oedd, y priodoldeb neu'r amhriodoldeb o esgymuno o gymundeb yr eglwys y sawl oedd wedi ty??? arnynt eu hunain ei cheryddon. Hyd yn oed pan ddangosai brawd a wnaethai ar fai arwyddion amlwg o edifeirwch, roedd rhai yn dal na ddylesid ei ollwng i mewn yn ôl. Gelwid un blaid yn Ffleminiaid, a'r llall yn Waterlandiaid, oddi wrth y parthau hynny o'r wlad lle yr oeddynt yn trigiannu. Y blaid flaenaf oedd yn fwyaf manwl a choeth. Achoswyd yr ymraniad hwn gan y gwahanol farnau a goleddid ar y cwestiwn, Pa beth sydd yn cyfansoddi achos digonol i beri esgymundod? Ystyriai un blaid mai y rhai a ddirmygent gyfreithiau Duw yn gyhoeddus yn unig oedd y rhai y dylesid gweinyddu arnynt geryddon llymaf yr eglwys; ond roedd y llall yn tybied, fod cyflawni troseddau ysgeifn yn ddigon o reswm dros ymwrthod â'r sawl a'n cyflawnent. Mae y blaid ddiweddaf yn rhoddi cymaint o bwys ar burdeb bywyd, fel y maent hyd yn oed yn awr, er eu bod yn ychydig iawn mewn nifer, yn dal yn selog a phenderfynol dros hynny. Mae tueddfryd i gyfranogi o ddifyrwch diniwed bywyd yn cael ei ystyried ganddynt fel prawf fod y galon wedi ei gosod ar y byd presennol – o ganlyniad, mae pob math o wisgoedd gwychion ac addurniadol yn cael eu gwahardd yn bendant ganddynt. Gwaherddir hefyd bob cyweithas â rhai a fyddo wedi eu hesgymuno. Maent yn ddiystyr o rwymau tyneraf bywyd, ac ni dderbynir un esgus dros wendidau y mae'r cnawd yn ddarostyngedig iddynt. Dilynant esiampl yr Iachawdwr, trwy olchi traed eu gwahoddedigion, fel arwydd o'u serch atynt. Maent yn gwahaniaethu mewn athrawiaeth hefyd yn eu plith eu hunain: roedd yr hen Ffleminiaid, neu'r Mennoniaid manylaf, yn cydsynio â sylfaenydd cyntaf y sect, nad oedd corff Crist yn ddeilliedig o Fair y Forwyn, ond iddo gael ei gynhyrchu o ddim gan nerth yr Ysbryd Glân. Mewn pethau eraill y maent yn cytuno yn gyffredinol ag athrawiaethau'r Eglwysi Diwygiedig Protestanaidd,er fod mewn cyffesiadau o ffydd a gyhoeddwyd ganddynt ogwyddiad amlwg tuag at Ariaeth. Ond er eu bod fel hyn yn gwahaniaethu, y maent oll yn cytuno ym mherthynas i ddeiliaid a dull gweinyddiad bedydd. Gohirir gweinyddiad yr ordinhâd hyd nes y byddo y bedyddiedig yn ddeuddeg oed; neu,os bydd yr ordinhâd hon wedi ei gweinyddu pan y byddo y perspn yn ei fabandod,fe adnewyddir y seremoni. Ei ffurflywodraeth eglwysig ydyw yr un gynulleidfaol – pob eglwys yn trefnu ac yn rheoli ei hachosion ei hun. Heb law'r gweinidog, mae ganddynt ddiaconiaid a diaconesau: y blaenaf yn gofalu am feibion tlodion, a'r olaf am ferched tlodion yr eglwys. Mae y cyfryw o'u gweinidogion ag sydd yn ddysgedig wedi derbyn eu haddysg yn y coleg Mennonaidd yn Amsterdam.

Y Mennoniaid ar wasgar[golygu | golygu cod y dudalen]

Yr Iseldiroedd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dienyddwyd merthyr olaf y Mennoniaid yn yr Iseldiroedd ym 1574, ac ers yr adeg honno buont yn rhydd i arfer eu ffydd. Er eu rhyddid gwleidyddol, cafodd eu hatal rhag gweithio mewn nifer o alwedigaethau, a throdd y Mennoniaid felly at sefydlu busnesau eu hunain. Daethant yn gyfoethog, ac yn ystod yr Oleuedigaeth buont yn rhagori mewn celf, llenyddiaeth, a nawddogaeth gymdeithasol. Erbyn y flwyddyn 1700, roedd 160,000 o ymlynwyr wedi eu bedyddio gan eglwysi Mennonaidd yr Iseldiroedd. Er y ffyniant yn y 18g, gostyngodd y niferoedd i 15,000 erbyn 1837 o ganlyniad i dwf yr eglwys Ddiwygiedig a dilynwyr yn gadael i geisio am swyddi llywodraethol ac ennill rhagor o arian.[1]

Canolbarth Ewrop[golygu | golygu cod y dudalen]

Parhaodd erledigaeth yn erbyn y Mennoniaid yn y Swistir tan y 18g, ac ymfudodd nifer ohonynt i dde'r Almaen, Alsás, yr Iseldiroedd, a'r Unol Daleithiau. Digwyddai rhwyg yn y mudiad ym 1693–97, a gadawodd yr hynaf Jakob Amann i sefydlu'r eglwys Amish. O'r 17g hyd yr 20g, trigai'r mwyafrif o Fennoniaid yn y Swistir, de'r Almaen, ac Alsás mewn cymunedau gwledig a chanddynt economïau amaethyddol syml. Dylanwadwyd arnynt gan syniadau Pietistaidd sydd yn pwysleisio'r profiad crefyddol personol.

Dwyrain Ewrop a Rwsia[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffermdy Mennonaidd yn yr hen Brwsia.

Yn sgil erledigaeth yr enwadau Ailfedyddiol yn ystod yr 16g, ymsefydlodd nifer o Fennoniaid Almaenig ac Iseldiraidd yn ardal Afon Vistula, gan gynnwys dinas Danzig/Gdańsk, a fu'n diriogaeth i deyrnasoedd Pwyl ac yn ddiweddarach Prwsia. Ym 1789, dechreuodd nifer ohonynt ymfudo i dde-orllewin Ymerodraeth Rwsia, sydd heddiw yn yr Wcráin, a sefydlu gwladfeydd yno. Erbyn 1835, trigai tua 1600 o deuluoedd mewn 72 o bentrefi. Datblygodd y "Mennoniaid Rwsiaidd" (Almaeneg: Russlandmennoniten) yn gymuned ethnogrefyddol unigryw, y mwyafrif ohonynt yn siarad Plautdietsch, tafodiaith Isel Almaeneg, yn iaith gyntaf ac yn medru sawl iaith arall. Almaenwyr ethnig ydynt.

Sefydlwyd Eglwys y Brodyr Mennonaidd ym 1860 gan garfan ohonynt yn sgil deffroad crefyddol, ac yn y 1870au ymfudodd rhai ohonynt i daleithiau canolbarth yr Unol Daleithiau a Manitoba yng Nghanada. Yn niwedd y ganrif honno, ymfudodd nifer o'r Mennoniaid Rwsiaidd eraill i'r Amerig, yn enwedig America Ladin. Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd mwy na 120,000 o Fennoniaid yn Rwsia ac yn byw mewn cymunedau annibynnol o ran crefydd, addysg, cymdeithas, economi, ac hyd yn oed llywodraeth.[1] Cafodd pob un ohonynt eu hail-leoli'n orfodol dan lywodraeth Stalin yng nghanol yr 20g, ac o ganlyniad dim ond ychydig o'u disgynyddion sydd wedi symud yn ôl i'r hen gymunedau. Yn 2014, trigai oddeutu 200,000 ohonynt yn yr Almaen, 100,000 ym Mecsico, 70,000 ym Molifia, 40,000 ym Mharagwâi, 10,000 yn Belize a rhagor yng Nghanada, UDA, yr Ariannin, Wrwgwâi, a Brasil.

Yr Amerig[golygu | golygu cod y dudalen]

Hen ŵr a gwraig o Fennoniaid Pensylfania ym 1942.

Yr hanes cyntaf sydd gennym am yr enwad hwn ar gyfandir America sydd tua diwedd yr 17g. Gan eu bod yn eu golygiadau ar amryw bethau yn debyg i'r Crynwyr, cawsant wahoddiad oddi wrth William Penn i ymsefydlu yn nhalaith newydd Pensylfania. Derbyniodd llawer y gwahoddiad hwn, ac yn mhen llai na thrigain mlynedd roedd y sect wedi cynyddu i fwy na phum cant o deuluoedd. Er y pryd hwnnw y maent wedi ymdaenu trwy holl daleithiau UDA, ac hefyd trwy Ganada. Maent yn America yn gyffelyb o ran eu golygiadau crefyddol i'w brodyr yn Ewrop. Perthyna iddynt, pa fodd bynnag, rai hynodion gwahaniaethol. Mae eu swyddogion yn gynwysedig o esgobion, gweinidogion, a diaconiaid; yr oll o ba rai a ddewisir trwy goelbren. Rhydd eu pregethwyr eu gwasanaeth yn rhad. Nid ydynt yn cadw cofnodion o aelodaeth eglwysig, oddi ar ddymuniad i beidio gwneud dim fyddo â thuedd ynddo i ymddangos yn wagorfoledd. Mae cynadleddau hanner blynyddol yn cael eu cynnal yn Ohio a Phensylfania, y taleithiau lle y maent luosocaf, er dyfeisio mesurau i helaethu a lledaenu dylanwad y sect. Ymwahanodd Mennoniaid Diwygiedig yr Amerig oddi wrth y Mennoniaid eraill yn y flwyddyn 1811, am eu bod yn dymuno byw yn fwy cyson â'r athrawiaethau a broffesent. Dilynant yn fanwl gynghorion Menno Simons, o berthynas i olchi traed, ymwrthodiad â llŵon, ac ysgariad oddi wrth bersonau a esgymunwyd. Nid ydyw'r blaid hon mor luosog a'r llall, ac y mae'n gyfyngedig yn bennaf i Bensylfania, lle y dechreuodd gyntaf; er fod cynulleidfaoedd yn perthyn iddi yn wasgaredig dros lawer o rannau o'r Unol Daleithiau.

Credoau a diwinyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nid oes awdurdodaeth Fennonaidd ganolog, ac mae pob cynulleidfa yn penderfynu ar ei ffurfwasanaeth a dysgeidiaeth annibynnol. Maent i gyd yn tueddu i gytuno ar y credoau canlynol: bedyddio credinwyr; edifeirwch er mwyn iachawdwriaeth; gwrthod dwyn arfau a thyngu llw; rhybuddio yn erbyn priodi y tu allan i'r ffydd; a gwisg ac arferion plaen.

Demograffeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Diwylliant[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Mennonite (religion). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Mai 2017.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dyck, Cornelius J. An Introduction to Mennonite History (Scottdale, Pa., Herald Press, 1981).
  • Kraybill, Paul N., gol. Mennonite World Handbook (Lombard, Ill., Mennonite World Conference, 1984).
  • The Mennonite Encyclopedia: A Comprehensive Reference Work on the Anabaptist-Mennonite Movement, 4 cyfrol (Hillsboro, Kans., Mennonite Brethren Publishing House, 1955-59).
  • Redekop, Calvin. Mennonite Society (Baltimore, Johns Hopkins University Press, 1989).
  • Smith, Henry C. Story of the Mennonites (Newton, Kans., Faith and Life Press, 1981).
  • Urry, James. None but Saints: The Transformation of Mennonite Life in Russia, 1789-1889 (Winnipeg, Hyperion Press, 1989).
Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.