Amish
Enghraifft o'r canlynol | Grŵp ethnogrefyddol |
---|---|
Math | Swiss, Almaenwyr |
Mamiaith | Almaeneg pensylfania |
Poblogaeth | 237,520, 330,265, 100,000, 5,000 |
Crefydd | Ailfedyddiaeth |
Dechrau/Sefydlu | 1693 |
Sylfaenydd | Jakob Ammann |
Enw brodorol | Amisch |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America, Canada, Bolifia, yr Ariannin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Grŵp o gymdeithasau eglwysig Cristnogol sy'n ffurfio is-grŵp o eglwysi'r Mennoniaid yw'r Amish[1] (Almaeneg Pennsylfania: Amisch, Almaeneg y Swistir: Amische, Saesneg: Amish). Adnabyddir yr Amish am eu dull o fyw syml, eu dillad blaen, eu cymunedau amaethyddol a theuluol, a'u hamharodrwydd i fabwysiadu nifer o gyfleusterau technoleg fodern. Maent yn byw yn bennaf yn Lancaster County, Pennsylvania, a Holmes County, Ohio, yn Unol Daleithiau America.
Tarddai'r Amish o sgism rhwng y Mennoniaid yn y Swistir, Alsás, a de'r Almaen ym 1693–97. Ymochrai cyndeidiau'r Amish â Jakob Ammann (1644–tua 1730), sydd yn rhoi ei enw i'r sect. Dechreuasant ymfudo i Ogledd America yn nechrau'r 18g, yn gyntaf i ddwyrain Pennsylvania. Ymfudodd yr Amish i'r Unol Daleithiau trwy gydol y 19g a'r 20g, a diflannodd eu cymunedau yn Ewrop.
Yn ystod ail hanner y 19g, bu rhwyg rhwng Amish "y drefn newydd", a dderbyniasant newidiadau cymdeithasol a thechnoleg newydd, a'r "hen drefn" a chadwasant at eu traddodiadau. Erbyn dechrau'r 20g, bu 2/3 ohonynt naill ai wedi ffurfio eglwysi bychain, ar wahân i'r hen drefn, neu wedi ymuno â'r Eglwys Fennonaidd neu Eglwys Fennonaidd y Gynhadledd Gyffredinol.
Rumspringa
[golygu | golygu cod]Un o nodweddion hynod yr Amish yw ei arfer o adael i aelodau glaslencyndod y gymuned i fwynhau cyfnod o ryddid oddi ar galwadau a rheolau'r sect. Enw'r arfer yma yw Rumspringa. Bydd bechgyn a merched yn eu harddegau hwyr yn cael teithio dramor a gweithio mewn meysydd eraill i ffwrdd o'r gymuned er mwyn blasu'r byd seciwlar. Mae'r mwyafrif helaeth yn dychwelyd nôl i'r gymuned Amish wedi eu cyfnod oddi wrth y gymuned.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Geiriadur yr Academi, "Amish".
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Erthygl ar yr Amish papur bro Rhuthun, Y Bedol, Mawrth 2020